Dyfyniadau
A dyma ni. Dyfyniadau olaf 2011. Mi gwelai chi nesaf y flwyddyn nesaf. Blwyddyn newydd dda i bawb. .
A dyma ni. Dyfyniadau olaf 2011. Mi gwelai chi nesaf y flwyddyn nesaf. Blwyddyn newydd dda i bawb. .
Gwahoddiad i roi eich troed mewn hosan llawn twrci a chelyn. Yn naturiol mae tipyn o flas y Dolig ar ein pwdin o ddyfyniadau yr wythnos hon.
Mae’n gyfle hefyd i ddymuno Nadolig Llawen a bendith yr Ŵyl ichi gyd.
A’r gwahoddiad arferol i chi ychwanegu at y dewis o ddyfyniadau . . .
Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd nes y cawn ni ddweud, Wel, dyna hwnna drosodd am flwyddyn arall, mae’n werth llunio rhestr funud olaf o’r llyfrau sydd wedi dal llygad rhywun ymhlith y nifer fawr sydd wedi eu cyhoeddi.
Ein rhestr flynyddol o ddeg uchaf wedi ei gosod yn gadarn ar sylfaen mympwy bersonol a dim byd arall.
Felly, ffwrdd a ni.
Wythnos arall mewn dyfyniadau. Dyma ddetholiad hyd at ddydd Gwener Rhagfyr 16. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .
Does yna ddim amheuaeth am boblogrwydd Only Men Aloud. Nid yn unig dyblu’r gân yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy ddwy flynedd yn ôl ond hefyd fwy na dyblu’r gynulleidfa.
Yn ôl y ffigurau fe wnaethon nhw ddenu tair mil a chant o bobol o gymharu â mil a hanner y tri thenor yn Wrecsam eleni a mil dau gant cyngerdd agoriadol Y Bala dair blynedd yn ôl.
Ac yr oedd y gynulleidfa ar ei thraed rhwng eitemau yn cymeradwyo. Gwefreiddiol.
Ac yng Nglynebwy – lle cyflwynwyd Only Boys Aloud – fel ag ym mhob perfformiad arall yr oedden nhw yn dra arbennig a’r arweinydd, Tim Rhys-Evans yn ddiferol o chwys yn cerdded oddi ar y llwyfan.
Cwyno wnawn ni fod cymeriadau yn darfod ond dydy nhw ddim, oherwydd mae rhai eraill yn dod yn eu lle, nid i lenwi eu sgidiau ond i greu eu sgidiau unigryw eu hunain.
Ond fel y dywed Ioan Roberts, golygydd Cymeriadau Llŷn, mae’r arferion a’r amgylchiadau a’r galwedigaethau a luniodd y cymeriadau a bortreadir yn y gyfrol wedi diflannu a hynny’n rhoi gwerth iddi i’r hanesydd lleol a chymdeithasol a deunydd darllen difyr, diddorol, i’r rhai hynny ohonom sydd ddim yn poeni am bethau o’r fath.
Y gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth Dewi Pws a ddewiswyd gan ddau o dri adolygydd rhifyn Rhagfyr 7 o y rhaglen radio Y Silff Lyfrau fel eu hoff lyfr.
Y tri fu’n trafod Wps a gyhoeddir gan Wasg Gomer (£4.95) oedd Gwion Hallam, Llinos Gerallt a Marred Llwyd a doedd gan y tri ond canmoliaeth i’r casgliad o gerddi a’i luniau trawiadol.
“Byddai’n rhaid inni fod yn bobl gas iawn ac wedi colli pob mymryn o atgof plentyndod i beidio â mwynhau y gyfrol,” meddai Gwion Hallam.
Cytunwyd bod y gyfrol arbennig hon yn dangos bod iaith yn hwyl a bod rhythm ac odlau yn hwyl.
Holodd Gwion Hallam a gollwyd cyfle i beidio a darparu CD gyda’r gyfrol.
Gellir gwrando ar yr hyn oedd gan y tri adolygydd i’w ddweud mewn sgwrs gyda Kate Crockett, cyflwynydd Y Silff Lyfrau, trwy glicio isod.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Y tri oedd yn trafod Siarad a gyhoeddir gan Y Lolfa (£5.95) oedd Gwion Hallam, Llinos Gerallt a Marred Llwyd ac yr oedden nhw i gyd yn canmol y nofel er i Gwion Hallam weld rhywfaint o wendid yn ei diwedd.
Mae’r nofel yn dilyn canlyniad damwain erchyll yng Nghymru lle mae merch ifanc yn cael ei lladd drannoeth cwympo’r tyrrau yn Efrog Newydd Medi 11.
Gellir gwrando ar yr hyn oedd gan y tri adolygydd i’w ddweud mewn sgwrs gyda Kate Crockett, cyflwynydd, Y Silff Lyfrau, trwy glicio isod.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Profodd cyfrol ddiweddaraf Rapsgaliwn yn un boblogaidd iawn gyda thri adolygydd y rhaglen radio Y Silff Lyfrau.
Mae’r gyfrol, ail un y cymeriad poblogaidd sy’n ymddangos ar Cyw ar S4C, yn egluro o ble mae coed Nadolig yn dod ac yn gwneud hynny mewn ffordd ddifyr yn ôl Gwion Hallam, Llinos Gerallt a Marred Llwyd.
Gellir darllen rhagor amdani yma
I clywed beth oedd gan y tri adolygydd i’w ddweud mewn sgwrs gyda Kate Crockett, cyflwynydd, Y Silff Lyfra, Rhagfyr 7, trwy glicio isod.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Disgrifiwyd nofel ddiweddaraf Rhiannon Wyn i blant, Yr Alarch Du, fel un sy’n mynd i’r afael a phynciau heriol.
Ac fe’i canmolwyd ar rifyn Rhagfyr 7 o Y Silff Lyfrau. Fe’i cyhoeddir gan Y Lolfa. £5.95
Go brin y bydd neb yn dadlau ac yn anghydweld â’r neges yn llyfr diweddaraf Angharad Tomos, Bodlon – Byw’n hapus ar lai.
Cri yw’r llyfr - digon blêr, dryslyd a darniog o ran diwyg - am inni fyw yn ddarbodus, yn ddiwastraff, yn syml ac i beidio ag afradu y cyfoeth sydd ar gael inni yn y byd – er mwyn arbed y byd hwnnw a’i bobl.
Ac mae hi mor hawdd:
“Y cyfan sydd raid inni ei wneud ydi dysgu bod yn fodlon. Dim ond inni fodloni ar lai, bydd yr ymdrech fawr i ennill arian yn arafu,” meddai.
Fedra i ddim honni mod i yn adnabod Elinor Bennett Wigley yn dda. Eto, pan ddigwydd inni daro ar ein gilydd mewn Steddfod neu gaffi tua Machynlleth ar ein gwahanol ffyrdd rhwng de a gogledd, mae gwên gynnes a “Sut wyt ti?” serchog ganddi bob amser.
Wythnos arall ddyfyniadau – dyma ddetholiad. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .
Mae yno frain – ond roedd yn rhywfaint o syndod i mi bod cyfrol o Hoff Gerddi Natur Cymru yn bosibl heb frain T H Parry-Williams.
Ond dydi'r hen adar castiog, cableddus, croch ddim yn cael eu pig i mewn i’r ddiweddaraf o gyfrolau Hoff Gerddi Gwasg Gomer.
Y cwestiwn amserol iawn, O ble mae coed Nadolig yn Dod?, sy’n cael ei ateb yn ail lyfr Rapsgaliwn, y cymeriad teledu sydd wedi gwneud cymaint o argraff ers ymddangos ar raglenni plant Cyw ar S4C.
Yn ffefryn efo rhieni a phlant fel ei gilydd.
Ai llwyddiant ynteu methiant oedd Saunders Lewis? Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn gan Gwynn ap Gwilym mewn cyfrol ddwyieithog newydd gan Barddas.
Er ei froliant mentrus, llyfr go draddodiadol ydi Castiau sydd newydd ei gyhoeddi. Dyma adolygiad ohono:
Mae addasiad newydd Mererid Hopwood o straeon o'r Mabinogi wedi ennill calon ein hadolygydd. Bydd yn ei ailddarllen sawl tro meddai wrth ei argymell i eraill.
Dyma sydd ganddi i'w ddweud:
Canmoliaeth gafodd hunangofiant y delynores Elinor Bennett Wigley gan dri adolygydd Y Silff Lyfrau ar BBC Radio Cymru, Tachwedd 30, 2011.
Disgrifiwyd Ifor ap Glyn fel bardd sydd wedi dod i oed gan adolygwyr rhaglen BBC Radio Cymru, Y Silff Lyfrau.
y tri adolygydd, Karen Owen, Lyn Lewis Dafis ac Annes Glynn, a oedd yn y stiwdio gyda chyflwynydd y rhaglen, Kate Crockett, oll wedi eu plesio gan ei gyfrol ddiweddaraf, Waliau’n Canu.
Ydi'r llenor a’r bardd Eigra Lewis Roberts wedi troi yn “hen wraig flin”? Dyna’r cwestiwn a gafwyd gan un o adolygwyr rhaglen BBC Radio Cymru, Y Silff Lyfrau, wrth drafod casgliad diweddaraf Eigra o straeon byrion.
Bu Nantgarw yn ysbrydoliaeth i mi- y lle, y traddodiad, yr holl hanes, ac yn fwy na dim y llestri a gynhyrchwyd yma, meddai Lowri Davies. Bydd arddangosfa o’i gwaith yn agor yn Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw, nos Wener, Rhagfyr 9.
Er iddi dreulio pedair blynedd gyntaf ei bywyd i fyny’r rhiw yn Nhonteg, yn Aberystwyth y cafodd ei magu a chael ei haddysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penweddig.
Adolygiad o Sachaid o Limrigau. Golygydd, Tegwyn Jones. Barddas. £7.95
I feddwl ei fod yn ffurf mor gyfarwydd ac mor boblogaidd, ymhlith y rhai hynny na fyddent yn arddel darllen barddoniaeth o gwbl hyd yn oed, mae'n rhywfaint o syndod cymaint o ddirgelwch sydd yna ynglŷn a'r limrig - Limerick yn y Saesneg.
Wythnos arall ddyfyniadau - dyma ddetholiad. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .
Petha digon prin yn y Gymraeg ydi llyfrau cwis ond mewn da bryd ar gyfer y Nadolig cyrhaeddodd Pam, Pwy, Pryd, Ble gan Tomos Morse.
"Llyfr cwis ardderchog i bawb at bob achlysur," meddir ar y clawr.
Wel, mi fydden nhw'n dweud hynny yn byddent!
BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.