Dweud eu dweud
Wythnos arall ddyfyniadau – dyma ddetholiad. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .
- Yr oedd pawb yn wylo. Yr oedd pob un person a ddaeth i fyny i’w wylio yn wylo – Christine Williams, mam Shane.
- Tydy nhw ddim mor gymhleth a hogia’r ddinas ac yn fy mhrofiad i yn cymryd eu hunain lai o ddifri – Siân James yn rhifyn Rhagfyr o WA-w! yn canu clodydd ‘cogie’r wlad’. Mae hi hefyd yn taranu yn erbyn cerddoriaeth ‘piped’ mewn lleoedd cyhoeddus gan holi, “Be sy’n bod ar dawelwch dwch?”
- Gwaetha’r modd dydy tyfu tomatos jest ddim yn ddigon – Angharad Penrhyn Jones yn ystyried yn ‘Y Papur Gwyrdd’ yr atebion posibl i argyfwng yr amgylchedd sy’n “bwnc moesol pwysicaf y ganrif” meddai.
- Fe fyddwn ni'n dod i hyd i chi, ac fe fyddwn ni'n eich arestio – yr Arolygydd Gary Smart o Uned Cefnogaeth Awyr De a Dwyrain Cymru yn rhybuddio’r rhai sy’n anelu golau laser at hofrenyddion.
- Fe hoffwn godi teulu fy hunan – cuilio am ychydig a gwneud dim ond treulio’r blynyddoedd cynnar yna gyda fy mhlant – Katherine Jenkins yn edrych ymlaen yn y ‘Wales on Sunday’ at gael plant.
- Fe wnaeth staff Maggie's . . . helpu fi i weld fod bywyd y tu hwnt i ganser - John Hartson ar achlysur agor canolfan newydd Maggies i ddioddefwyr canser yn Abertawe.
- Rwy’n hoffi’r ffordd mae’r Cymry mor danbaid am eu chwaraeon – Matt Smith sy’n actio Dr Who.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr honiadau o gamymddygiad o ddifri – Llefarydd Llywodraeth Cymru yn dilyn stori yn y Daily Telegraph am ymddygiad arholwyr CBAC.
- Yr oedd Rhys, fy merch Gracie a minnau yn rhywle diarffordd yng Nghymru. Fe wnaethon ni gynnau tanau a chrwydro yn y gwyllt a dianc rhag popeth – Anna Friel a fu ar wyliau mewn tipi yng Nghymru gyda Rhys Ifans ei chariad.
- Dim ond pen draw eich golygon ydi’r gorwel – Brawddeg gan ei fam-gu a fu, medd ‘Y Cymro’, yn sbardun personol i Richard Parks sydd wedi codi miliwn o bunnau i elusen Marie Curie.
- Llwyddais i ddynwared Cilla Black gan synnu Gareth - Claire Summers a gyflwynodd yn fyw ar ‘Wales Today’ wobr arwr tawel byd y chwaraeon i Gareth Hughes o Glwb Golff y Rhondda. "Mae e'n meddwl bod pawb yn Y Rhondda yn gallu cyflawni unrhyw beth,” meddai amdano.
- Os ydym am godi safonau ar draws y bwrdd yng Nghymru yr ydym angen gwybod sut mae’n hysgolion yn perfformio. Mae bandio wrth galon hynny – Leighton Andrews AC y Gweinidog Addysg.
- Y perygl yw fod y system yn edrych ac yn teimlo fel tabl cynghrair – Elaine Edwards, ysgrifennydd cyffredinol UCAC.
- Roedd llwyth o bobl wedi fy enwebu gan gynnwys Cyngor Llanycil, cyngor plwyf sy’n ffinio a fy mhentref, Y Parc, ffrindiau fy nhad, fy mos a fy ffrindiau – Elin Haf Davies, a rwyfodd ar draws dau gefnfor i godi arian at achosion da, sydd wedi ei dewis yn un o’r rhai fydd yn cario’r fflam Olympaidd.
- Byddai o help mawr pe byddai cymdeithas sy’n galw ei hun yn wâr, yn tyfu i fyny, ac yn medru cael deialog ar gwestiynau mawr, cymhleth bywyd, megis hunanladdiad a meddyliau briwiedig a’r ofnau sy’n ein parlysu – Y Dr David Enoch, seiciatrydd, yn ‘Y Goleuad’ yn dilyn marwolaeth Gary Speed.