« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Saunders: llwyddiant ta methiant

Categorïau:

Glyn Evans | 09:51, Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011

Ai llwyddiant ynteu methiant oedd Saunders Lewis? Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn gan Gwynn ap Gwilym mewn cyfrol ddwyieithog newydd gan Barddas.

  • Stori Saunders Lewis – Bardd y Chwyldro yng Nghymru / The Story of Saunders Lewis, The Poet of the Welsh Revolution gan Gwynn ap Gwilym. Barddas. £7.95.

Dyma’r drydedd gyfrol ddwyieithog o’i bath i’w cyhoeddi gan Barddas yn ddiweddar. Cafwyd yn barod ‘stori’ Hedd Wyn a Waldo Williams gan Alan Llwyd. Yn anffodus dyw’r llyfrau ddim yn unffurf o ran diwyg i’w rhoi gyda’i gilydd ar silff. 

   
Cyflwyniadau dadansoddol ydyn nhw ac mae Gwynn ap Gwilym yn olrhain pob agwedd o yrfa a gwaith Saunders Lewis o’i eni yn Wallasey, swydd Gaer, Hydref 15, 1893, hyd ei farw Medi 1, 1984 gan ddod i’r casgliad nad gwleidydd ydoedd yn bennaf “ond bardd, nofelydd, dramodydd a beirniad llenyddol”.


Sawl pwnc trafod

Mae’n codi sawl pwnc trafod ac yn cau pen mwdwl ei astudiaeth gyda chwestiwn - a atebwyd gan Saunders Lewis ei hun - ynglŷn â llwyddiant neu aflwyddiant ei fywyd gwleidyddol.
Mae’n ei ddyfynnu yn dweud yn 1961 iddo fethu “yn llwyr” yn ei genhadaeth.
“Yr oedd gen i awydd, nid awydd bychan, awydd mawr iawn i newid hanes Cymru. I newid holl gwrs Cymru a gwneud Cymru Gymraeg yn rhywbeth byw, cryf, nerthol, yn perthyn i’r byd modern,” meddai yr adeg honno.
“Ac mi fethais yn llwyr. Fe’m gwrthodwyd i gan bawb. Fe’m gwrthodwyd i ym mhob etholiad y ceisiais i fod yn ymgeisydd ynddo, mae pob un o’m syniadau . . . mae nhw i gyd wedi’u bwrw heibio.”
Fel yr eglura Gwynn ap Gwilym sôn yr oedd am ei yrfa fel gwleidydd gan ychwanegu mai y ‘methiant’ hwnnw “a’i gyrrodd i draethu ei weledigaeth drwy ysgrifennu hanes llenyddiaeth Cymru a llunio dramau” ac mewn llenyddiaeth y cafodd ei “lwyddiant digamsyniol”.
Mae’n mynd i’r afael wedyn a’r cwestiwn pa mor agos at y gwir oedd ymdeimlad Saunders Lewis o fethiant fel gwleidydd hefyd.
Dyfynna gofiannydd Saunders Lewis, Robin Chapman, yn dweud bod “ôl ei law ar Gymru o hyd” ac na ellir  “cyfathrebu yn ystyrlon yn y Gymru gyfoes hebddo”.
Meddai Gwynn ap Gwilym: “I’r graddau hynny, bu ei ddylanwad yn aruthrol.”


Ei gymwynas fawr

Ychwanega mai ei gymwynas fawr oedd “dysgu i’r Cymru weld gwerth yn eu treftadaeth genedlaethol” yn dilyn sigo hunanhyder y genedl am ganrif a mwy ers Brad y Llyfrau Gleision yn 1847.
“Cenhadaeth ei fywyd,” meddai, “ fu ceisio dangos i’r Cymry fod yr ymdrech i ddiogelu’r Gymraeg a’i threftadaeth yn ymdrech i ddiogelu rhywbeth o wir bwys.
A dywed y byddai’n anodd iawn dadlau “iddo fethu yn llwyr” gan nad “yr un lle o gwbl yw Cymru Refferendwm lwyddiannus 2011 a Chymru Penyberth 1936. Gall Cymru 2011 edrych ymlaen o leiaf at ryw fath o ddyfodol cenedlaethol,” meddai.
Ond er y llygedyn hwnnw o obaith mae gair o rybudd hefyd gan Gwynn ap Gwilym pan ddywed “fod safon diwylliant y werin Gymraeg yn is nag y bu, efallai, ers cyn y Diwygiad Methodistaidd, a pholisïau cyhoeddus ym meysydd llenyddiaeth a darlledu yn yr iaith yn dyrchafu’r poblogaidd a’r gwacsaw ar draul noddi dim sydd o werth.”
Am Saunders Lewis ei hun mae’n cloi gyda sylw un arall o’i gofianwyr, D Tecwyn Lloyd, a ddywedodd yn 1975; “Fydd dim byd yng Nghymru yr un fath eto.”
“Prin iawn, yn hanes unrhyw genedl, yw’r eneidiau y gellir dweud hynny amdanynt,” meddai Gwynn ap Gwilym.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.