« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

Categorïau:

Glyn Evans | 15:45, Dydd Sul, 18 Rhagfyr 2011

Wythnos arall mewn dyfyniadau. Dyma ddetholiad hyd at ddydd Gwener Rhagfyr 16. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .

• A’r cwbwl dw i’n gallu ei ddweud wrthyn nhw [gweithwyr teledu Cymru] ydi, ‘dowch â’ch syniadau. Mae’r cyfle’n bodoli, dowch â’ch syniadau atan ni. Mi fyddwn ni’n edrych arnyn nhw efo agwedd cwbwl agored – Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr  S4C yn trafod y diwydiant yn Y Cymro heddiw.
• Mae o’i gyd tu ôl imi nawr – Imogen Thomas yn dilyn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn Llundain.
• Does yna ddim amheuaeth y bydd Nadolig 2011 yn anoddach na Nadolig 2010 ac yn sicr yn anoddach na’r tair neu bedair blynedd cynt – Graham Morgan, cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru.
• Mae hi wedi fy ngadael gyda hyn a fe fyddai’n ei ddilyn am byth – Huw Evans, ffotograffydd o Gaerdydd, a fydd yn ymgyrchu i wneud de Cymru yn ganolbwynt ymchwil i ganser yr ysgyfaint yn dilyn marwolaeth ei wraig Sue yn 55 oed.
• Mae hi’n ddigon drwg clywed am droliau archfarchnadoedd yn cael eu dwyn am fod pobol yn osgoi talu am fagiau plastig. Ond beth am hon ‘ta? Merched sy’n fodlon mynd o unigeddau Cymru dros y ffin i siopa ‘Dolig am fod y bagiau am ddim. A phetrol mor rhad? – Madog Mwyn yn ‘Y Cymro’.
• Amhersonol – y gair a ddefnyddiwyd mewn adroddiad swyddogol i ddisgrifio’r driniaeth mae cleifion gyda dementia yn ei dderbyn mewn ysbytai yng Nghymru.
• Unwaith eto y mae Rygbi Cymru yn brwydro yn erbyn bygythiad a all newid y gêm yng Nghymru am genhedlaeth – Gwyn Jones yn y ‘Western Mail’ yn trafod ‘argyfwng’ y chwaraewyr  sy’n gadael i chwarae yn Ffrainc.
• Mae’r ymateb pan ma’ pobol yn dallt nad ydi Aloma a fi’n ŵr a gwraig, neu mewn perthynas o unrhyw fath yn union fel petaen nhw newydd fod yn dyst i ysgariad – Tony o ‘Tony ac Aloma’ yn atodiad ‘Yr Herad Cymraeg’ yn y ‘Daily Post’.
• Immigrants wedi cyrraedd – Rhwng difrif a chwarae pan gyrhaeddodd Tony ac Aloma noson arwyddo eu hunangofiant ym Mhorthaethwy, Ynys Môn yr wythnos diwethaf.
• Pan oeddwn yn 12 oed y prif anrheg gan dad a mam oedd Llyfr Emynau – Y parchedig Meirion Lloyd Davies yn ateb cwestiwn ‘Y Goleuad’ “pa anrheg wnaeth eich siomi fwyaf ar y Nadolig?” Onmd mae yn ychwanegu, “Ond fel mae’n digwydd  mae;r llyfr gennyf ac ar y ddesg o hyd!”
• Yna cerddodd pawb i fyny i Stiwt y Glowyr a cha'l peint - Ivor England, 75 oed, o'r Porth ger Pontypridd yn cofio pwll glo’r Maerdy yn cau yn 1990.  

 • Does yna ond un dyn yn fy marn i sydd ar ben y goeden yna a mynd a ni ymlaen a Ryan Giggs yw hwnnw – Malcolm Allen am weld Giggs yn olynu Gary Speed yn hyfforddwr pêl-droed Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.