Cymeriadau Llŷn - pobl Ioan Roberts
Cwyno wnawn ni fod cymeriadau yn darfod ond dydy nhw ddim, oherwydd mae rhai eraill yn dod yn eu lle, nid i lenwi eu sgidiau ond i greu eu sgidiau unigryw eu hunain.
Ond fel y dywed Ioan Roberts, golygydd Cymeriadau Llŷn, mae’r arferion a’r amgylchiadau a’r galwedigaethau a luniodd y cymeriadau a bortreadir yn y gyfrol wedi diflannu a hynny’n rhoi gwerth iddi i’r hanesydd lleol a chymdeithasol a deunydd darllen difyr, diddorol, i’r rhai hynny ohonom sydd ddim yn poeni am bethau o’r fath.
Rheini oedd y dyddiau da pan fyddai’r miloedd yn heidio i wylio gemau Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog – llond wyth bws yn mynd bob Nadolig i wylio Pwllheli’n chwarae Caernarfon.
Bellach mae’r Tarw dros ei bedwar ugain ac yn chwarae bowls. “Gêm bach dda – jyst bo fi ddim yn cael taclo!”
Wedyn, dyna bortread y Parch Meirion Lloyd Davies o’r Parchedig Morgan Griffith. Diddorol fuasai olrhain faint o wŷr yr Efengyl fu yn y sgwâr bocsio cyn troi tua’r pulpud. Dynion fel “Dan bach o Bontypridd” a Morgan Jones, Hendy-gwyn-ar-Dâf, “mountain fighters” hyd yn oed!
Yn llinach y rheini y daw Morgan Griffith – pencampwr bocsio yn y coleg a’i fam, hefyd, yn dipyn o ddynes yn magu tri o weinidogion a dal i regi fel tincar!
Mae’n amlwg i Morgan ddysgu rhywfaint wrthi. Er yn gapten Clwb Golff Pwllheli, gwrthwynebodd benderfyniad y clwb i ganiatáu chwarae ar y Sul.
Pregethodd yn erbyn y penderfyniad mewn cyfarfod awyr agored ar y Maes ym Mhwllheli ar y prynhawn Sadwrn cynt. “A gobeithio bydd hi’n glawio ar y diawlad fory,” taranodd.
Mae yma amryw o ysgrifau portread ardderchog, fel un Gwyneth Owen am ei thad, John Rowlands, gyrrwr lori laeth ac englynwr. Dyna’r dyddiau pan fyddai llawer ohonom yn manteisio ar y lori laeth am lift i rywle neu’i gilydd ar fore Sadwrn.
A beth am yr englyn hwn o’i eiddo i Fwthyn Nain?
Bwthyn heb fawr o bethau – a fu’n Nef
I Nain gynt a minnau,
A brwyn o gors y bryniau
Yno’n do i ni ein dau.
Cymeriadau lliwgar fel y Siôn Bodantur ddyfeisgar a’i chwaer awengar Ann o Lŷn. Eisteddfotwyr dawnus, wedyn, fel y canwr gwerin, Harri Lôn, a gyflwynir mewn campwaith o ysgrif gan Eleri Llewelyn Morris, a’r adroddwraig, Neli’r Hendra, un o sawl portread graenus gan Ioan Roberts ei hun.
“Dwi wedi ennill amball dro am mai fi oeddwn i, ac wedi colli am yr un rheswm dro arall. Mympwy beirniad ydi hwn i gyd,” meddai Neli, a hithau wedi beirniadu bum gwaith yn y Genedlaethol.
Hoffais yn fawr y portread o Dafydd Parry yr Ocsiwnïar, cowlaid o straeon da. Oes yna arwerthwyr sy’n bwrw drwyddi’n ddwyieithog y dyddiau hyn? Cofiaf rai’n gwneud yn mart Tregaron slawer dydd.
Un dda yw’r stori am angladd hen lanc o ffermwr cefnog heb unrhyw berthnasau agos ond nifer o rai pell – gobeithiol. Wedi’r angladd cyhoeddodd Parry o ddrws o festri – “Pawb sy’n perthyn i’r Band of Hope, dewch yma ar eich union”.
Cyfrol i ysgafnhau’r cyfnod wedi’r Nadolig – a nid jyst ar gyfer pobol Llŷn!