Rap, odl a sŵn i'r plant
Y cwestiwn amserol iawn, O ble mae coed Nadolig yn Dod?, sy’n cael ei ateb yn ail lyfr Rapsgaliwn, y cymeriad teledu sydd wedi gwneud cymaint o argraff ers ymddangos ar raglenni plant Cyw ar S4C.
Yn ffefryn efo rhieni a phlant fel ei gilydd.

Cyhoeddir Raplyfr 2 gan Y Lolfa gyda’r geiriau gan Beca Evans a’r lluniau gan Cube Interactive.
Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Rapsgaliwn – “rapiwr gorau’r byd. Mae popeth dwi’n dweud yn odli o hyd” – O Ble Mae Llaeth yn Dod? yn gynharach eleni ac yn awr dyma un arall yn syth ar ei sodlau.
Ynddo mae Rapsgaiwn yn egluro o ble yn union y daw’r coed Nadolig sydd ar werth yn y siopau ac mae hefyd yn cynorthwyo Santa i addurno ei goeden Nadolig ef.
Bydd y ffans wrth eu boddau – ac mae gan y cymeriad rhyfeddol hwn ddigonedd o’r rheini fel y gwelwyd ar faes Eisteddfod yr urdd eleni.
• Ble Mae Coed Nadolig yn Dod? Raplyfr 2. Y Lolfa a Fflic. £2.95
Un arall o lyfrau swnllyd Gwasg Gomer ydi Santa Swnllyd. Llyfr gyda stori seml iawn am Santa yn paratoi ar gyfer ei daith, yn hedfan drwy’r awyr yn ei gar llusg a dringo i lawr simnai i adael anrhegion i blant bach da!
Yr atyniad ydi’r lluniau bywiog a’r blwch sain ar ochr dde y dalennau sy’n cynnig gwahanol synau i gydfynd â’r stori; Santa’n Ho Ho-io, Car llusg yn gwibio, Sŵn traed Santa yn yr Eira, Cloc yn tician yn y tŷ mae’n ymweld ag ef ac yn olaf pwt o Jingle Bells.
Eisoes cyhoeddodd Gomer gyfrol debyg am gêm bêl droed ac mae’n ddiwyg sy’n plesio’n fawr.
A phan yw’r sŵn yn pallu mae’n bosib ychwanegu batris newydd.
• Santa Swnllyd. Lluniau gan Janet Samuel. Gomer. £9.99.
Un arall o lyfrau Pobl y Pants ydi Antur Fawr Panta Clos.
Llyfr tra lliwgar am “Bobl y Pants o’r Gofod” yn rhannu anrhegion.
I blantos y gogledd bydd angen egluro mai tronsiau yw pants ond go brin y bydd hynny’n peri anhawster.
Mae’r cymeriadau arallfydol sy’n eu gwisgo yn wirioneddol hyfryd ac annwyl a’r stori ar fydr ac odl wedi ei llunio yn y Gymraeg gan Eurig Salisbury y bardd plant cenedlaethol presennol.
Dyma’r drydedd gyfrol am Bobl y Pants, yn dilyn Pobl y Pants o’r Gofod a Rhyfel Mawr y Pants.
Hwyliog iawn er nad yw’r mydryddu yn gyson lithrig.
• Antur Fawr Panta Clos gan Claire Freedman a Ben Cort ac Eurig Salisbury. Gomer £5.99.
Fel Llyfr Sgleiniog y mae Un Noswyl Nadolig yn cael ei ddisgrifio.Ystyr hynny yw y gallwch deimlo crisial sgleiniog yn rhan o’r lluniau.
Addasiad arall o’r Saesneg, y tro hwn gan Sioned Lleiniau, yn adrodd hanes Draenog Bach yn llawn cyffro noswyl Nadolig.
Wedi coginio minspeis yn llwyddiannus mae mewn tipyn o strach sut i fynd ati i addurno'r tŷ - ond mae’n cael help creaduriaid mor annwyl ag ef ei hun, y llygod a’r cadno i wneud addurniadau ac yn y blaen. A’r cyfan yn diweddu gyda gwên ar yr wyneb.
Gyda lluniau deniadol, stori fach dawel, annwyl a chlên ond heb rhyw lawer o gyffro ac wedi ei haddasu o One Christmas Night yn y Saesneg. Jyst y peth cyn amser gwely pan fo cynnwrf y Nadolig ym mhobman.
Llyfr yn yr un gyfres ag Un Noson Oer, Un Diwrnod Oer, Un Diwrnod Braf ac Un Diwrnod Gwlyb.
- Un Noswyl Nadolig gan M Christina Butler a Tina Macnaughton. Addasiad Sioned Lleiniau. Gomer £5.99.