Llestri Lowri
Bu Nantgarw yn ysbrydoliaeth i mi- y lle, y traddodiad, yr holl hanes, ac yn fwy na dim y llestri a gynhyrchwyd yma, meddai Lowri Davies. Bydd arddangosfa o’i gwaith yn agor yn Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw, nos Wener, Rhagfyr 9.
Er iddi dreulio pedair blynedd gyntaf ei bywyd i fyny’r rhiw yn Nhonteg, yn Aberystwyth y cafodd ei magu a chael ei haddysg gynnar yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Penweddig.
“Mae blodau’n bwysig fel addurniadau porslen Cymreig, yn enwedig gwaith Nantgarw,” meddai. Hyd yn oed cyn agoriad swyddogol ei harddangosfa safai gweithiau Lowri ochr yn ochr barchus gyda’r casgliad bychan o gynnyrch amhrisiadwy Nantgarw sydd yn yr amgueddfa.
Mae i’r adeilad a’r safle, lle unwaith y llithrai’r badau heibio ar eu ffordd rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd, bwys Ewropeaidd, oherwydd mae olion yr hen gelfyddyd yma o hyd.
Mae’r hen odynnau yn y cefn, mae yma grochenydd, Sally Stubbins, yn gweithio ac yn hyfforddi dosbarthiadau - a saif yr hen dŷ yn gadarn rhwng y man lle bu unwaith y gamlas â’i thrafnidiaeth hamddenol a rhuthr gwyllt presennol yr A470.
“Rydw i wedi bod yn astudio ac arsylwi patrymau Cymreig eraill,” meddai, “porslen Abertawe, Llanelli, Bwcle, Ewenni – a rwy i wedi bod yn ymwybodol o draddodiadau Cymreig eraill. Yr oedd tacsidermydd adnabyddus - Hutchings - yn Aberystwyth yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
“Yn Ysgol Gynradd Aberystwyth yr oedd nifer o anifeiliaid wedi eu stwffio mewn blychau gwydr. Welwn i ddim byd rhyfedd yn y peth, roedden nhw i’w gweld yn Amgueddfa Aberystwyth, hefyd, ac yn gyffredin yn nhai pobol yr ardal.
“Felly rwy i wedi bod yn astudio’r rhain a’u copïo ffel ffynhonnell arall i addurn fy ngweithiau.”
Ffynhonnell arall i’w haddurniadau yw’r straeon ias ac ysbryd a glywodd ar aelwyd ei nain yn ardal Machynlleth – fel honno am yr ysbryd drwg a garcharwyd mewn tebot.
Mae addurniadau ei llestri ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn draddodiadol Gymreig ond o syllu’n fanwl arnyn nhw fe welir nad ydyn nhw’n mor draddodiadol a hynny.
Ar debot fe geir llun yr ysbryd a garcharwyd mewn tebot. Mae ganddi ddawn i gynhyrchu lluniau bach gosgeiddig wedi ei datblygu o’r syniadau a’r arddull a wêl ar lestri Nantgarw.
“Yn blentyn byddai fy nhad yn fy annog i wneud lluniau bach, bach, gyda phen ac inc.”
O Ysgol Penweddig aeth Lowri i Goleg Sir Gâr i wneud cwrs sylfaen mewn celf. Oddi yno aeth i Goleg Celf Caerdydd (UWIC) gan raddio mewn Cerameg yn 2001. ’Roedd ganddi ewythr yn byw yn Nhon-teg a chafodd rwydd hynt ar ôl graddio i ddefnyddio’i garej fel stiwdio.
“Yna es i Brifysgol Swydd Stafford – i ganol gwlad y crochenwaith – i wneud gradd uwch mewn cynllunio cerameg. Roeddwn i am ddysgu sgiliau diwydiannol o gynhyrchu porslen ac efelychu’r technegau hynny. Treuliais gyfnod yn Stiwdio Gynllunio Wedgewood a chael y cyfle i archwilio’u archifau.” Roedd hynny yn 2007-2009.
Mae’n defnyddio’r clai china cain o Stoke-on-Trent yn stiwdio “Fireworks”, Glanyrafon, Caerdydd, gan addurno’i llestri, y tu mewn ac allan, gyda’r lluniau bychain a ysbrydolwyd gan addurniadau llestri Nantgarw, yr adar a’r anifeiliaid mewn blychau gwydr a welodd yn Aberystwyth a straeon ei phlentyndod.
Treuliodd amser yn astudio’r casgliadau llestri sydd mewn amgueddfeydd ac orielau fel y “Victoria & Albert” yn Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a Glyn y Weddw.
Cafodd gomisiwn eleni i ddarparu arddangosfa o’i gwaith ar gyfer Oriel Gelf Rhuthun fel rhan o gynllun Collect. Aed a’r arddangosfa honno wedyn i orielau eraill, yn eu plith Oriel Saatchi yn Llundain.
Arddangoswyd ei gwaith mewn amryw wledydd tramor gan gynnwys Arddangosfa SOFA (Sculpture Objects & Functional Art) yn Chicago
Mae ei gwaith yn adlewyrchu traddodiadau cyffyrddus yr hen gartrefi Cymreig, a wedi ei hysbrydoli gan y mathau o lestri y byddai pobol yn eu casglu ’slawer dydd – ond gan fynd gamre ymhellach.
Dan yr wyneb fel welir ôl archwilio’r hen ddelweddau, yr herio a’r addasu, weithiau’n chwareus dro arall yn anghysurus a chynhyrfus. Mae’n ymestyn yr hen themau ond gan gynnal manylder cain a’r mwynder sy’n nodwedd mor hanfodol o’i gwaith.
Arddangosir ei gwaith o Ragfyr 9, 2011, tan Fawrth 10, 2012.