Castiau - llyfr gan Pedr Wynn-Jones
Er ei froliant mentrus, llyfr go draddodiadol ydi Castiau sydd newydd ei gyhoeddi. Dyma adolygiad ohono:
Adolygiad Joanna Davies o Castiau – Llyfr i Blant Drwg o Bob Oed gan Pedr Wynn-Jones. Gwasg Carreg Gwalch. £5.50.
Hoffais yr arddull ffwrdd a hi a thafod yn y boch ar glawr y llyfr gyda’r neges annisgwyl, “Gobeithio cei di’r un pleser o ddarllen y rwtsh yma”!
Ond er y broliant ‘mentrus’, llyfr go hen-ffasiwn a thraddodiadol yw Castiau yn edrych nôl ar anturiaethau’r awdur yn fachgen ifanc yn Sir Y Fflint.
Braidd yn hirwyntog yw’r disgrifiad agoriadol o ardal enedigol yr awdur; o ddiddordeb i drigolion yr ardal yn sicr ond, efallai, nid i hwntw fel fi!
Lle mae’r awdur yn llwyddo yw yn ei ddisgrifiadau o’i gymeriadau.
Mae ‘Loidi’ yn arbennig yn bortread celfydd o gyn-athro’r awdur a cheir ambell i linell gomig sy’n taro deuddeg: "Os na fydd Loidi yn y nefoedd, wel dydi’r fath le ddim yn bod-neu mi fydd Loidi dal yn fyw, dwi ddim yn siwr…"
Mae’n ysgrifennu mewn ffordd agos atoch ac yn sgwrsio gyda’r darllenydd gyda digon o jôcs; "Hyd at y 50’gau doedd lliw ddim wedi cael ei ddarganfod fel y mae heddiw… heblaw am ambell i ymgais aflwyddiannus i greu brown."
Straeon shaggy dog ys dywed y Sais yw’r rhain yn ymddolennu’n ddigon hamddenol cyn cyrraedd y ‘pwynt’, (efallai’n or hamddenol ar brydiau).
Yn achos Loidi, gwelwn athro sy’n dal i fyw yn y gorffennol ac sydd wrth ei fodd yn adrodd straeon am ei gyfnod yn Siapan adeg yr Ail Ryfel Byd.
Ond nid yw’r straeon yn echrydus o gofio’r cyfnod trychinebus hwnnw; wedi’r cwbwl siarad gyda’r plant mae Loidi. Ac mae ‘byw yn y gorffennol’ yn thema barhaus yn y gyfrol.
Mae yna ‘foeswers’ ar ddiwedd hanes Loidi wrth i’r awdur yn blentyn greu darlun o dylluan ‘las’ a chael ei watwar gan y plant eraill am ddefnyddio lliw anaddas ond dywed Loidi wrtho, "Paid ti byth â gadael i neb ddweud wrthat ti be di lliw dim byd rŵan."
Mae yna sentiment rhamantaidd wrth i’r awdur feddwl ei fod yn dal i weld y dylluan las "allan yn y nos du" hyd heddiw.
Ceir digon o ymadroddion trawiadol a disgrifiadau digri yn y gyfrol – fel y disgrifiad o ben-ôl y Prifathro fel "dwy sach lwyd o datws oer" a Phrifysgol ‘Newfangelton’.
Ceir cyffyrddiadau o Daniel Owen a’i gymeriad cofiadwy, Wil Bryan, yn y straeon capel lle mae’r awdur a’i frawd yn chwarae triciau ac nid tan yr ail bennod cawn ‘gast’ neu ‘dric’ go iawn.
Mae’r castiau’n cynnwys gludo capelwraig dew i’w sedd a ‘rhechan’ yn y capel (neu ffugio rhechan diolch i’r seddau swnllyd). Hiwmor diniwed yr oes a fu a theimlwn fod yr awdur yn edrych yn ôl ac yn hiraethu o bosibl am gyfnod llai helbulus.
Mae’n stori hawdd iawn i’w darllen gyda’r penodau’n gryno ac yn arwain yn esmwyth i’r ‘cast’ nesa’.
Hoffais y disgrifiad o fam yr awdur adeg Dolig yn disgwyl ymwelwyr ac yn "gwisgo’r wên fach honno yr oedd yn ei chadw mewn potyn yn y cyntedd."
Cafwyd tro annisgwyl yn hanes Idwal ddiniwed yn gorfod cario’r bwced o ‘Mostistericasid’ am filltiroedd lawer at ffermwr lleol.
Wnâi ddim sbwylio’r ‘cast’ ond roedd yna gyffyrddiad ‘dyfnach’ na’r disgwyl lle mae Idwal yn cael gweledigaeth ac yn cael ‘sgwrs’ gyda’i hynafiaid, yn cynnwys ei dad wnaeth farw’r flwyddyn flaenorol ar ei siwrne wledig i’r fferm.
Mae’n disgrifio’r weledigaeth fel ‘teimlad ein bod yn rhan o draddodiad cadarn gwerinol a gogoneddus o remp.’
Hoffwn petai’r awdur wedi datblygu ar y thema hon. Fel ag y mae, daw’r ‘weledigaeth’ yn ddisymwth i’r stori ac yna mae’n diflannu wrth i ni ddychwelyd at fyd y ‘castiau’ arwynebol.
Yn sicr adeg Dolig pryd mae tuedd gan ddyn (neu fenyw) at ‘nostalgia’, mae ‘Castiau’ yn anrheg addas i’r darllenwr hŷn, yn arbennig y darllenwr o’r un fro â’r awdur.
Fel y dywed fy mam, "o’n i’n cael sbri, ond dim sbri cas blynydde nôl".