Wps - dyma Dewi Pws
Y gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth Dewi Pws a ddewiswyd gan ddau o dri adolygydd rhifyn Rhagfyr 7 o y rhaglen radio Y Silff Lyfrau fel eu hoff lyfr.
Y tri fu’n trafod Wps a gyhoeddir gan Wasg Gomer (£4.95) oedd Gwion Hallam, Llinos Gerallt a Marred Llwyd a doedd gan y tri ond canmoliaeth i’r casgliad o gerddi a’i luniau trawiadol.
“Byddai’n rhaid inni fod yn bobl gas iawn ac wedi colli pob mymryn o atgof plentyndod i beidio â mwynhau y gyfrol,” meddai Gwion Hallam.
Cytunwyd bod y gyfrol arbennig hon yn dangos bod iaith yn hwyl a bod rhythm ac odlau yn hwyl.
Holodd Gwion Hallam a gollwyd cyfle i beidio a darparu CD gyda’r gyfrol.
Gellir gwrando ar yr hyn oedd gan y tri adolygydd i’w ddweud mewn sgwrs gyda Kate Crockett, cyflwynydd Y Silff Lyfrau, trwy glicio isod.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.