Tannau Tynion - adolygiad o'r hunangofiant
Fedra i ddim honni mod i yn adnabod Elinor Bennett Wigley yn dda. Eto, pan ddigwydd inni daro ar ein gilydd mewn Steddfod neu gaffi tua Machynlleth ar ein gwahanol ffyrdd rhwng de a gogledd, mae gwên gynnes a “Sut wyt ti?” serchog ganddi bob amser.
Tannau Tynion. Hunangofiant Elinor Bennett Wigley. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. £9.95
Cofiwn ei thad yn dda, gwyddwn am ei doniau cerddorol a’i bod yn wraig i Ddafydd Wigley. Gwyddwn ychydig am dristwch hanes eu meibion hynaf, Alun a Geraint, a anwyd gyda’r afiechyd dieflig Sanfilippo ac am farwolaeth y ddau yn eu harddegau cynnar wedi oes fer o ddirywiad cyflym.
Rhoddir lle amlwg i’r cyfnod dirdynnol hwnnw yn ei chyfrol Tannau Tynion, y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Gwasg Gwynedd. Cawn beth syniad o faint y dioddef o brofodd o ddarganfod natur y salwch, ergyd fuasai wedi llorio’r rhan fwyaf ohonom.
Cawsant y newydd pan oedd Dafydd ar gychwyn ymgyrch etholiadol yn Arfon – ymgyrch lwyddiannus fyddai’n golygu y byddai’n treulio llawer o’i fywyd yn Llundain. Profiad poenus tu hwnt i amgyffred ac a gadwyd yn gyfrinach am ysbaid go dda. Mae’r pwysau i’w deimlo’n yr ysgrifennu.
Un peth a gaf yn feichus mewn cyfrolau hunangofiannol yw’r duedd i gychwyn drwy hel achau’r teulu. Ar y cyfan dydyn nhw o ddiddordeb i neb ond yr awdur a’i berthnasau agos.
Ond mae hanes teulu Elinor yn ddiddorol a dadlennol. Hen ewythr iddi oedd y casglwr alawon gwerin, Nicholas Bennett, a hen, hen, ewythr arall iddo oedd Ceiriog. Am linach! A diddorol canfod o ble daeth yr enwau Seisnig fel Bennett, Wigley, Cleaton ac Ingram sy’n frith yn ardal Llanidloes.
Diddorol hefyd dysgu am ran Cyngor Dosbarth Penllyn – a’i thad, Emrys Bennett Owen - yn y frwydr i achub Tryweryn. Mae gwybodaeth fel yna o werth hanesyddol.
Yr oedd ganddi awydd mynd yn gyfreithwraig ac ar ôl graddio yn y gyfraith yn Aberystwyth a chafodd ysbaid yng ngholeg y gyfraith Guildford ond rhoes y gorau i’r syniad a mynd i’r Academi Gerdd Frenhinol. Mae hanes ei gyrfa ddisglair fel telynores o statws rhyngwladol yn gyffrous ac fe’i hadroddir gydag afiaith byrlymus.
Cawn ein tywys i mewn ac allan o’i gyrfa gerddorol drwy’r gyfrol. Daw ei blynyddoedd fel mam i bedwar o blant i dorri ar ei gwaith fel telynores. Diddorol darllen iddi gael cyngor i beidio defnyddio’i henw priod yn broffesiynol gan fod priodasau cerddorion yn dueddol o chwalu! Mantais yr enw Bennett yw ei fod yn dod yn gynnar yn y wyddor!
Daeth ysfa Dafydd Wigley i ddychwelyd i Gymru ac i weithio i gwmni Hoover ym Merthyr a’r ddau yn ôl i Gymru ac i fwrlwm gwleidyddiaeth leol. Cafodd y ddau ei hethol ar Gyngor Merthyr a cheir hanes y frwydr i sefydlu Ysgol Gymraeg yn y dref – brwydr galed gyda’r enwog a gelynieithus John Beale yn Gyfarwyddwr Addysg yno.
Bu peth gwelliant oddi ar hynny, er mai dim ond dwy ysgol gynradd Gymraeg sy’n y fwrdeisdref o hyd, ac un ohonyn nhw’n enfawr gyda tua 600 o ddisgyblion.
Wedi marw Alun a Geraint dychwelodd i wneud mwy o berfformio, dysgu telynorion ifainc ac ymddiddori ym maes therapi cerdd. Gydag egni a brwdfrydedd rhyfeddol trodd i faes gweinyddu, comisiynu cerddoriaeth i’r Delyn, sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias, cyhoeddi – a thrwy’r cyfan i gyd drysori’n hetifeddiaeth.
Mae’n gresynu, er hynny am ddiffyg mentergarwch ei chyd gerddorion a’u dibyniaeth ar grantiau. Dywed hefyd fod yn rhaid cadw gwleidyddion ymhell oddi wrth benderfyniadau artistig.
Mae yna stori ddiddorol ynglŷn â fel y bu i Dafydd Wigley roi’r gorau i arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad.
Addawodd Ieuan Wyn Jones, meddai, mai tros dro y byddai ef yn arweinydd - nes adfer iechyd Dafydd. Pan ddychwelodd, er hynny, gwelwyd fod pethau wedi newid ac y mae’n sicr y bu i rai aelodau fanteisio ar ei wendid.
A phan benderfynodd geisio dychwelyd i’r Cynulliad yn 2007 drwy gyfrwng rhestr Gogledd Cymru, dim ond ail oedd ef ar restr Plaid Cymru a chollodd Cymru “un o’i gwleidyddion grymusaf a mwyaf carismataidd”.
Elinor sy’n dweud – a wna i ddim anghytuno.
Mae yna ddigon o bytiau blasus i’ch goglais. Fel y bu iddi hybu carwriaeth R S Thomas a’i ddarpar ail wraig; darganfod Catrin Finch a ddaeth flynyddoedd wedyn yn ferch-yng-nghyfraith iddi; a pherswadio’r Tywysog Siarl i gael telynor neu delynores swyddogol.
Cyfrol ddifyr, hwyliog a phleserus sy’n werth ei darllen. Cyfrol y dylem ei darllen.