Deg Dolig
Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd nes y cawn ni ddweud, Wel, dyna hwnna drosodd am flwyddyn arall, mae’n werth llunio rhestr funud olaf o’r llyfrau sydd wedi dal llygad rhywun ymhlith y nifer fawr sydd wedi eu cyhoeddi.
Ein rhestr flynyddol o ddeg uchaf wedi ei gosod yn gadarn ar sylfaen mympwy bersonol a dim byd arall.
Felly, ffwrdd a ni.
1. Kate – Cofiant Kate Roberts - Cyfrol fawr yr ŵyl o ran maint ac o ran sylwedd. Torth o lyfr sydd wedi cael sylw’n bennaf am ‘ddatgelu’ bod awdur Te yn y Grug, fwy na thebyg, yn ‘gay’ yn y grug hefyd.
Ond dydi damcaniaeth Alan Llwyd ddim wedi argyhoeddi pob adolygydd gyda Derec Llwyd Morgan yn Golwg a J Graham Jones yn Y Cymro yn cwyno nad oes digon o dystiolaeth bendant yn cael ei chynnig gyda Derec Llwyd Morgan yn cyfeirio yn dweud: “Rhyfyg hunandwyllodrus biau datganiad o’r fath, ac y mae’n diraddio’r awdur a’i lyfr.”
Fodd bynnag, mae llawer mwy na’r ddamcaniaeth hon i’r honglad o lyfr gan Alan Llwyd ac mae ei olwg gwerthfawr ar fywyd a gwaith yr awdures yn afaelgar a difyr. Lolfa. £19.95.
2. Tony ac Aloma: Cofion Gorau – I begwn arall gyda hunangofiant dau o gantorion pop mwyaf poblogaidd Cymru yn eu dydd a ddaeth â chaffi digon disylw ar ochr yr A5 yn y Gaerwen, Sir Fôn, a’i weinyddesau Pat a Janice ac Elisi a Gwen i sylw’r genedl.
Fel gyda Kate mae mater rhywiol i fynd ‘i’r afael ag ef yma hefyd, yn benodol y berthynas rhwng y canwr, Tony, a’r gantores, Aloma, sydd yn briod â rhywun arall.
Mae hwn eto yn ferfâd o lyfr ac yn cynnwys nifer o luniau atgofus.
Nid cofiant cyntaf y ddau, fodd bynnag. Cyhoeddwyd Mae Gen i Gariad gan Edgar Jones yn y Saithdegau. Lolfa. £9.95.
3. Tannau Tynion – Rhaid i hyd yn oed un fel fi – sy’n ddigon giamllyd o’r troleidiau o hunangofiannau Cymraeg sy’n cyrraedd ein siopau – gydnabod bod un Elinor Bennett Wigley o ddiddordeb arbennig. Mae’r rhan lle mae’n sôn am fagu dau blentyn a gollwyd yn eu harddegau cynnar oherwydd salwch yn ddwys ac yn ddyrchafol yr un pryd ac yn cael ei drin yn â sensitifrwydd arbennig. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. £8.95.
4. Sgymraeg – Be fyddem ni wedi ei wneud heb Sgymraeg dros y blynyddoedd? Achos, oedd, yn wir, yr oedd y fersiwn wachul hon o iaith y nefoedd yn bod cyn i Jac Codi Baw fathu’r gair yn Golwg a’i gwneud yn eitem wythnosol i droi ati yn awchus. Wrth gwrs, mireiniwyd y ‘grefft’ gyda dyfodiad peiriannau cyfieithu cyfrifiadurol a’i dyrchafodd i dir newydd.
Bydd yn rhaid wrth y casgliad hwn. Lolfa. £3.95.
5. Sachaid o Limrigau - Yn gyfartal a Sgymraeg o ran ei hapêl i mi y mae casgliad Tegwyn Jones o limrigau Cymraeg. Cyfrol y mae rhywun yn synnu inni fedru gwneud hebddi dros yr holl flynyddoedd. Mae yna dros 400 ohonyn nhw, nifer yn ffrwyth cystadleuaeth Limrig y Dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Barddas. £7.95.
6. Gwres y Gegin – Mi fydd yna ddigon o hyn ddydd Sul heb droi at lyfr. Ond os brysiwch chi, ella bod na’n dal ddigon o amser i wneud teisen Nadolig munud olaf Heulwen Gruffydd ac i ddarllen hanes yr awdur yn mynd yn sownd mewn bin olwynion. Presant gwerth chweil i bawb nad yw gwres y gegin yn eu llethu. Nifer o awgrymiadau buddiol hefyd. Lolfa. £19.95.
7. Pleserau’r Plismon – Atgofion John Alwyn Griffiths sydd a fflyd o straeon yn deillio o’i yrfa gyda’r heddlu fel honno am ddau blismon CID mewn siwtiau tywyll, parchus, yn cnocio ar ddrws yn Sir Fôn. “Wedi dod i arestio'ch mab," meddai un wrth y ddynes a ddaeth i’r drws pen hir a hwyr. "Diolch i'r nefoedd am hynny," medda hithau. “Roeddwn i'n meddwl mai Jehovah's Witnesses oeddach chi!” Carreg Gwalch. £7.50.
8. Y Sêr yn eu Tynerwch – Llyfr teilwng o’r bwrdd coffi newydd brynith rhywun ichi. Na, o ddifrif rŵan, mae rhywbeth yn arbennig yn y casgliad hwn o luniau am dywyllwch a goleuni’r nos a dynnwyd gan Gareth Roberts sydd wedi dewis tameidiau o farddoniaeth i fynd efo nhw. Gwell mynegi diddordeb personol; Gareth oedd fy nghartwnydd pan oeddwn yn olygydd Y Cymro. Carreg Gwalch. £16.
9. Wps! – er mai fel “cyfrol ddireidus a lliwgar o gerddi doniol gan Dewi Pws” i blant mae hon yn cael hyrwyddo waeth inni gyfaddef ein bod ni i gyd yn blant yr adeg hon o’r flwyddyn. Gomer. £4.99.
10. Hoff Gerddi Natur Cymru – Detholiad derbyniol a difyr ddigon wedi ei olygu gan Bethan Mair yn y gyfres sy’n prysur dyfu o ‘hoff gerddi’ gan Wasg Gomer. Wrth gwrs, gwelir bod rhai cerddi yn eisiau o blith y cant a gynhwysir ac y mae ambell un y gellid ei hepgor er lles rhywbeth arall ond dyna ran o hwyl y math yma o gyfrol. Gomer. £7.99.
A dyna fy newis personol i – tybed pa lyfrau fyddech chi yn eu dewis i’w rhoi neu eu derbyn yn anrhegion . . .?