Main content

Ydych chi am fod yn rhan o dîm Penwythnos Mwyaf BBC Music?

Rydym yn cynnig cyfle i chi ymuno â ni am leoliad gwaith yn y Penwythnos Mwyaf yn Abertawe, Perth, Belfast neu Coventry.

Dyma beth sydd raid i chi ei wneud:

Mae’n rhaid i chi fod wedi ymweld â digwyddiad Cyflogadwyedd a mynychu 1 x sesiwn holi ac ateb ac 1 x Gweithdy. Bydd ffurflenni yn rhoi manylion ynghylch sut mae gwneud cais am leoliad profiad gwaith ar gael i'w casglu o ddesg Profiad Gwaith y BBC yn Marketplace. Bydd eich presenoldeb yn cael ei gofnodi, a dim ond y rheini sydd wedi cofrestru i fod yn bresennol fydd yn gymwys.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau cyflogadwyedd ar y dyddiadau canlynol:

Cliciwch yma i wneud cais am docynnau am ddim ac i weld y telerau ac amodau llawn.

Mae’n rhaid i chi fod rhwng 16 a 24 oed i fynychu a bydd angen prawf o bwy ydych chi.

Ar ôl casglu eich ffurflen gais, e-bostiwch yr wybodaeth berthnasol y gofynnir amdani i'r cyfeiriad sydd wedi’i nodi.

Mae’n rhaid i geisiadau ddod i law cyn pen 7 niwrnod ar ôl y digwyddiad cyflogadwyedd:

  • Perth - DYDDIAD CAU 23:59pm ar 21ain Ebrill 2018

  • Coventry - DYDDIAD CAU 23:59 ar 26ain Ebrill 2018

  • Belfast - DYDDIAD CAU 23:59pm ar 28ain Ebrill 2018

  • Abertawe - DYDDIAD CAU 23:59 ar 4ydd Mai 2018

Cwestiynau Cyffredin

Sut mae cael gwybod pa leoliadau gwaith sydd ar gael?

Bydd gwybodaeth lawn am y lleoliadau gwaith sydd ar gael a'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer bob un ym mhob un o'r Digwyddiadau Cyflogadwyedd.

Pam mae terfyn oedran ar y swyddi?

Mae hyn yn unol â Pholisi Amddiffyn Plant y BBC. Nid yw'r BBC yn gallu sicrhau bod aelodau o staff sydd wedi cael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn bresennol i fonitro'r rheini dan 18 oed bob amser. Gan nad ydym yn gallu gwarantu hyn, ni fydd y swyddi ond ar gael i bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed.

A oes terfyn oedran uwch?

Oes. Mae'r digwyddiadau Cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar gynulleidfa sydd rhwng 16 a 24 oed, felly dim ond gan ymgeiswyr rhwng 18 a 24 oed rydym yn gallu derbyn ceisiadau.

A fydd cyfle i weld unrhyw rai o'r artistiaid ar y llwyfan yn ystod y lleoliad gwaith?

Byddwch yn cael egwyl o 1 awr a byddwch yn gallu gwylio'r artistiaid ar y llwyfan bryd hynny; ond allwn ni ddim rhoi sicrwydd y bydd eich egwyl yn cyd-daro â pherfformiad eich hoff artist/artistiaid. Lleoliad gwaith yw hwn yn bennaf, nid tocyn am ddim i'r Penwythnos Mwyaf.

Dydw i ddim yn gymwys i weithio yn y DU. A ydw i’n gallu gwneud cais beth bynnag?

Bydd y cynnig o leoliad yn amodol arnoch chi yn bod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Ar ddiwrnod cyntaf eich lleoliad, neu cyn hynny, byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich pasbort ac, os yw’n berthnasol, unrhyw ddogfennau gwreiddiol eraill (sy'n cadarnhau bod gennych hawl i weithio yn y DU); neu dystysgrif geni Brydeinig lawn ynghyd â thystiolaeth ddogfennol o'ch rhif yswiriant gwladol (e.e. P45, P60).

A fyddai’n gallu dod â ffrindiau neu aelodau o'r teulu i fy ngweld y tu ôl i'r llwyfan?

Yn anffodus, am resymau diogelwch, chewch chi ddim dod â gwesteion i gefn y llwyfan.

A fyddwch chi’n darparu lluniaeth?

Byddwn. Byddwn yn darparu talebau cinio a/neu swper ar eich cyfer yn y man arlwyo yng nghefn y llwyfan, yn dibynnu ar ba bryd rydych yn gweithio. Mae'r tîm arlwyo yn gallu darparu ar gyfer y mwyafrif o geisiadau dietegol. Bydd dŵr a diodydd poeth ar gael am ddim drwy'r dydd ar y safle.

A fyddai’n gallu hawlio costau teithio neu lety ar gyfer mynd a dod i'r Penwythnos Mwyaf?

Gan mai cyfleoedd i bobl leol yw'r rhain, allwn ni ddim talu costau teithio na llety. Os bydd eich sifft yn gorffen am 23.00 neu ar ôl hynny, gallwn ddarparu tacsi adref i chi.

Dydw i ddim yn byw yn yr ardal leol ond rydw i wedi mynychu digwyddiad Cyflogadwyedd. Ydw i’n gallu gwneud cais am y lleoliadau hyn beth bynnag?

Ydych. Gallwch wneud cais am y swyddi lleoliad gwaith ond mae’n rhaid i chi allu mynychu sesiwn gynefino 1 awr o hyd a bod yn bresennol ar y ddau ddiwrnod yn ystod y prif ddigwyddiad.

A fydd cyfle i mi gyfarfod â rhai o'r enwogion?

Efallai, ond dylech gofio mai lleoliad gwaith proffesiynol yw hwn ac felly byddwn yn disgwyl i chi ymddwyn yn broffesiynol bob amser, gan gynnwys yng nghwmni Cyflwynwyr y BBC ac artistiaid y Penwythnos Mwyaf.

A oes cyfyngiad ar faint o leoliadau rydw i'n gallu gwneud cais amdanynt?

Byddwch yn gallu rhestru eich lleoliadau o 1-5, yn y drefn sydd orau gennych, gan ei bod yn bosib y bydd rhai rolau yn fwy poblogaidd na’i gilydd. Wrth ddewis dim ond 1 lleoliad, mae’n bosib y byddwch yn cyfyngu ar eich cyfleoedd. Serch hynny, ni ddylech wneud cais am ddim mwy na 5 rôl y byddech yn cael y budd mwyaf o gymryd rhan ynddynt.

Ydych chi’n chwilio am bobl sydd â phrofiad o reoli digwyddiadau?

Na, nid oes angen i chi fod â phrofiad i ymgeisio .... dyma eich cyfle i gael profiad! Rydym yn chwilio am bobl sydd ag agwedd dda a diddordeb brwd mewn gweithio mewn digwyddiadau, ym maes cerddoriaeth ac ym myd darlledu.

Gyda pha Rwydwaith Radio y byddaf yn gweithio os ydw i’n llwyddiannus?

Mae timau Cynhyrchu, Cyswllt ag Artistiaid, Teledu ac Ar-lein wedi'u rhannu ar draws y 4 safle. Ond mae bob un o Rwydweithiau Radio'r BBC wedi’u lleoli mewn dinas groesawu wahanol, ar wahân i Radio 2 a Radio 3 sy'n rhannu safle. Bydd y rheini sy’n gwneud cais yn Abertawe yn gweithio â thimau Radio 1, bydd y rheini yn Coventry a Perth yn gweithio â thimau Radio 2 neu Radio 3 a’r rheini sy’n gwneud cais yn Belfast yn gweithio â 6Music.

A fyddai’n gallu cael geirda ar ôl y lleoliad?

Oherwydd bod digwyddiad y Penwythnos Mwyaf mor fawr ac oherwydd nifer y lleoliadau sydd ar gael, ni fyddwn yn gallu cynnig geirda, ond byddwch yn gallu cynnwys y profiad a’r lleoliad gwaith hwn ar eich CV.