Gŵyl Ymylol Y Penwythnos Mwyaf - Abertawe
Mae Gŵyl Ymylol Y Penwythnos Mwyaf yn rhaglen 10 diwrnod creadigol a chynhwysfawr a fydd yn cael ei chynnal yn y cyfnod cyn Y Penwythnos Mwyaf. Mae digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos, felly cofiwch ddod nôl yma i weld.

Darllenwch ymlaen ar gyfer manylion rhaglen yr Ŵyl Ymylol yn Abertawe.
Related Links
Dydd Gwener 25ain Mai
Rave Lounge Radio 1 Abertawe - gydag Annie Mac, Danny Howard a Gwesteion Arbennig – Disciples, High Contrast a Redlight!

Dechreuwch Y Penwythnos Mwyaf mewn steil, wrth i Rave Lounge Radio 1 deithio i glwb nos Fiction nos Wener 25ain Mai!
Bydd Annie Mac a Danny Howard o Radio 1 yn fyw o 7pm, ac yn ymuno â nhw mae’r gwesteion arbennig Disciples, High Contrast a Redlight !
Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael a gallwch eu prynu drwy glicio’r ddolen isod nawr.
Cost y tocynnau yw £9 y person + ffi archebu o £1, ac maen nhw wedi eu cyfyngu i 2 docyn i bob gwerthiant.
Mae’r digwyddiad yma ar gyfer oedran 18+ yn unig. Bydd rhaid dangos ID â llun.
Darllenwch y Telerau ac Amodau.
Bydd DJ Radio 1 Danny Howard yn neidio ar y decs yn Fiction, Abertawe, i gynnal dosbarth meistr DJio ar gyfer nifer fechan, lwcus! Dewch draw i ddysgu’r sgiliau sylfaenol, o gydweddu curiadau i raglennu setiau, a chlywed ambell i air o gyngor ynglŷn â sut i lwyddo yn y diwydiant! Bydd DJ Radio 1 Annie Mac hefyd yn ymuno â Danny ar gyfer sesiwn cwestiynau ac ateb, felly dewch â’ch holl gwestiynau gyda chi!

Dydd Llun 21ain – Dydd Iau 24ain Mai
Academi Radio 1
Rhai o DJs BBC Radio 1 sy’n cynnal sesiynau am ddim i roi hwb ac i ysbrydoli gyrfaoedd creadigol pobl ifanc yn Theatr y Grand Abertawe.

Bydd sêr o’r byd cerddorol ac adloniant yn cynnal gweithdai ymarferol, perfformiadau cerddoriaeth fyw ac yn cynnig cipolwg ar y diwydiant, gan roi’r arfau, cysylltiadau a gwybodaeth i bobl ifanc 16-24 oed er mwyn iddyn nhw allu cymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd creadigol.
Dydd Mawrth 22ain Mai
Radio 1 yn Abertawe gyda Huw Stephens a gwesteion arbennig - Black Peaks, Casey a Chroma

Mae Huw Stephens o Radio 1 yn eich croesawu i noson o gerddoriaeth fyw yn Theatr y Grand Abertawe, gyda’r bandiau roc Prydeinig gwych Black Peaks, Casey a Chroma, a fydd yn cael eu recordio’n fyw a’u darlledu ar BBC Radio 1.
*Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad yma*
Dydd Mercher 23ain Mai
Radio 4 Four Thought

Mae Four Thought ar BBC Radio 4 yn gyfres o sgyrsiau sy’n procio’r meddwl, ble gall siaradwyr drafod yn agored eu barn am y trendiau, syniadau, diddordebau a’r pethau o bwys sydd yn effeithio ar ddiwylliant a chymdeithas. Mae gan bob sgwrs ddimensiwn bersonol, wedi ei hysbrydoli neu ei dylanwadu gan brofiad neu stori, sy’n creu darlun o’u meddylfryd eu hunain am bwnc penodol.
Bydd Radio 4 yn Abertawe er mwyn recordio pennod arbennig iawn o Four Thought gyda gwesteion lleol yn fyw o Theatr Volcano.
*Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad yma*
Hwb BBC Cymru
Fe fydd BBC Cymru yn Unit 19 o ddydd Mercher 23ain efo disgo tawel, gweithdy drwm a bass, cerddoriaeth byw, a llwyth o weithgareddau a rhaglennu BBC Cymru.

Am restr llawn o weithgareddau BBC Cymru yn yr Hwb ewch yma.
By clicking on the links above you may be directed to a third party site. The BBC is not responsible for the content of third party sites & you will be subject to the company’s own privacy policy when providing your data to book tickets. Please read The Biggest Weekend Fringe Terms and Conditions for further details.