Main content

Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf

18 - 28 Mai 2018

Mae Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf yn rhaglen estyn allan gynhwysfawr a chreadigol. Bydd yn para 10 diwrnod ac yn cael ei chynnal ychydig cyn y Penwythnos Mwyaf.

Bydd yr Ŵyl Ymylol yn cynnwys perfformiadau cerddorol byw, golwg ar y diwydiant, gweithdai a sesiynau holi ac ateb gyda DJs a phobl ddylanwadol, taith ledled y DU gyda BBC Music Introducing, menter newydd Deg Darn, Radio 1 Academy, digwyddiadau cyflogadwyedd, cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc a llawer mwy.

Darllenwch ymlaen i gael rhagor o fanylion am weithgareddau'r Ŵyl Ymylol.

Gŵyl Ymylol y DU gyfan

I ddathlu bod Penwythnos Mwyaf BBC Music yn dod i bedair dinas ym mhedair gwlad y DU, mae’r BBC yn cynnal Gŵyl Ymylol 10 diwrnod ledled y DU gan ddechrau ddydd Gwener 18 Mai 2018.

Mae angen i leoliadau ledled y DU gymryd rhan, cofrestrwch nawr!

I gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i dudalennau rhestru Skiddle ar gyfer Gŵyl Ymylol y DU gyfan. Mae digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos, felly edrychwch yn rheolaidd i weld y rhestrau diweddaraf.

Drwy wneud cais am docynnau, byddwch yn cytuno â thelerau ac amodau Skiddle, gan gynnwys ei bolisi preifatrwydd.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol ac ni fydd yn atebol am eich defnydd o Skiddle.com

Taith o amgylch y DU gyda BBC Music Introducing

Yn ogystal â Gŵyl Ymylol y DU, mae BBC Music Introducing yn mynd â phedwar band ar daith. Bydd y daith yn dechrau yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton ddydd Gwener 18 Mai ac yn dod i ben wrth i’r bandiau berfformio ar lwyfan y Penwythnos Mwyaf.

Bydd y daith yn ymweld â nifer o leoliadau ar lawr gwlad ledled y DU a bydd artist lleol newydd sy'n cydweithio â sioeau BBC Music Introducing lleol yn cefnogi'r bandiau bob nos.

Mae mwy o wybodaeth am BBC Music Introducing yma.

Gweithgareddau estyn allan yn ein 4 dinas

Abertawe

  • Radio 1 Academy: Bydd y Daith Ysgolion yn cynnig sesiynau wedi’u dylunio'n benodol i ysgolion ledled y ddinas. Byddant yn cael eu cyflwyno gan DJs Radio 1 a byddant yn cynnwys gwesteion enwog o fyd cerddoriaeth, y teledu a'r rhyngrwyd.
    Rhagor o wybodaeth am Radio 1 Academy
  • Bydd BBC Music Introducing a Gorwelion yn trefnu gigs a fydd yn arddangos cerddoriaeth newydd ac arloesol orau Cymru.
  • Bydd rhaglen Four Rhought Radio 4 yn cael ei recordio, a bydd yn cynnwys pedair sgwrs a fydd yn procio’r meddwl. Bydd y siaradwyr yn rhoi eu barn ar y tueddiadau, y syniadau, y diddordebau a’r brwdfrydedd sy'n effeithio ar ddiwylliant a’r gymuned.
  • Ar BBC Radio Wales, bydd Janice Long yn darlledu ei sioe min nos yn fyw gyda chymysgedd o fandiau byw, sesiynau acwstig a'r gwesteion gorau o'r Ŵyl Ymylol; a bydd Elis James, digrifwr ac un o gefnogwyr brwd Dinas Abertawe, yn recordio ei bodlediad Feast of Football o flaen cynulleidfa fyw.
  • Ar BBC Radio Cymru, bydd sioe foreol Aled Hughes yn cael ei recordio’n fyw o’r ddinas a bydd yn cynnwys straeon o bob rhan o Gwm Tawe. Bydd Huw Stephens a Lisa Gwilym yn cynnwys uchafbwyntiau'r Ŵyl Ymylol yn eu sioeau.

Perth

Coventry

  • Bydd BBC Concert Orchestra yn perfformio War Horse – The Story In Concert a fydd yn cynnwys cerddoriaeth Adrian Sutton a ysgrifennwyd ar gyfer cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o stori Michael Morpurgo. Stori yw hon am geffyl ifanc o’r enw Joey a aeth ar daith ddramatig o lonyddwch cefn gwlad Lloegr i feysydd brwydro ar Ffrynt y Gorllewin.
  • Bydd ystod o sgyrsiau ysbrydoledig, sesiynau holi ac ateb a gweithdai gyda gwesteion arbennig oddi ar Radio 2 gan gynnwys Sara Cox a Jeremy Vine, a ddechreuodd ar ei yrfa fel newyddiadurwr gyda Coventry Telegraph yn 1986.
  • Bydd mannau cerddoriaeth fyw yn ymddangos ledled y ddinas ar strydoedd, mewn ysgolion ac mewn gweithleoedd amrywiol er mwyn i gerddorion lleol gael perfformio.

Belfast

  • Byd darllediadau byw gan BBC Radio 6 Music a BBC Radio Ulster yn ogystal â gigs a digwyddiadau mewn lleoliadau ledled y ddinas.
  • Bydd Steve Lamacq a Marc Riley, cyflwynwyr ar 6 Music, yn darlledu’n fyw o Limelight Belfast gyda cherddoriaeth fyw gan Therapy? a Django Django
  • Bydd nifer o weithdai a sgyrsiau’n cael eu cynnal a fydd yn amrywio o The Power of Lyrics in Music i Beyond Belfast, yn trafod y ffyrdd gorau o deithio y tu hwnt i’r ddinas.
  • Bydd Across the Line, rhaglen newydd Radio Ulster sy'n cynnwys cerddoriaeth o Iwerddon yn darlledu’n fyw mewn cyngerdd.

Bydd BBC Music hefyd yn cynhyrchu nifer o weithdai cerddoriaeth a dosbarthiadau meistr gyda PRS for Music, a fydd yn cynnwys rhai o enwau mawr y byd cyfansoddi. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn y 4 dinas ar gyfer cerddorion a chyfansoddwyr lleol uchelgeisiol.

Digwyddiadau Cyflogadwyedd a Phrofiad Gwaith

Drwy gydol yr Ŵyl Ymylol, bydd pobl ddylanwadol ar draws y diwydiannau creadigol yn darparu gweithdai ymarferol a fydd yn rhoi'r sgiliau, y cysylltiadau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd creadigol yn ogystal â’r cyfle i ddysgu am y diwydiant cerddoriaeth gan rai o enwau mwyaf y busnes.

Bydd yr Ŵyl Ymylol yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Freeformers, The Social ac Oh Yeah Studio i gynnal digwyddiad cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Nod y digwyddiad yw targedu cannoedd o bobl ifanc ar draws y pedair dinas gyda chyfuniad o weithdai, sesiynau holi ac ateb a chyfleoedd rhwydweithio i ddarparu sgiliau cyflogadwyedd digidol a chreadigol perthnasol iddyn nhw.

I ddysgu sut mae cofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn, ewch i wefan BBC Shows and Tours

Hefyd, bydd dros 75 o leoliadau profiad gwaith ar gael a fydd yn cynnig cyfle i weithio yn y Penwythnos Mwyaf ei hun, a hynny mewn nifer o swyddi gwahanol ym maes cyswllt artistiaid, cynhyrchu teledu a radio, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau.

Deg Darn y BBC – Her No Place Like

Mae prosiect Her No Place Like yn annog plant oed ysgol i greu eu fersiwn eu hunain o ddarn Kerry Andrew, sef No Place Like, un o’r darnau yng nghyfres Deg Darn eleni, i ddathlu’r hyn sy’n arbennig ac yn unigryw am eu tref enedigol neu eu hysgol.

Mwy o wybodaeth am y prosiect Her No Place Like

I ddathlu’r Penwythnos Mwyaf, bydd cannoedd o ysgolion ledled y DU yn cynnal gwasanaethau Deg Darn. Bydd y rhain yn cynnig y cyfle i blant fod yn greadigol ac i ddathlu cerddoriaeth gyda’r BBC.

Mwy o wybodaeth am Ddeg Darn y BBC