Partneriaid Gŵyl Ymylol Penwythnos Mwyaf BBC Music
Telerau ac Amodau
Caiff y Cytundeb hwn ei wneud
RHWNG::
(1) Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, 1 Portland Place, Llundain W1A 1AA (y “BBC”); a
(2) “Phartner yr Wŵl Ymylol”.
1. DIBEN
Diben y cytundeb hwn yw galluogi Lleoliadau yn y DU i frandio digwyddiadau cerddoriaeth fyw, a gynhelir yn ystod yr wythnos rhwng dydd Gwener 18 Mai 2018 a dydd Llun 28 Mai 2018, o dan faner Gŵyl Ymylol Penwythnos Mwyaf BBC Music.
2. Y BBC
- Bydd y BBC yn darlledu'r Penwythnos Mwyaf yn ystod Gŵyl Banc diwedd mis Mai (25-28 Mai 2018).
- Does dim sicrwydd bydd y BBC yn rhoi sylw i’ch digwyddiad, ond bydd y BBC yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau yn ceisio rhoi sylw i ddetholiad o ddigwyddiadau a gynhelir fel rhan o’r Ŵyl Ymylol.
- Bydd y BBC yn rhoi gwybodaeth am berfformwyr Partneriaid yr Ŵyl Ymylol ar-lein.
- Bydd y BBC yn darparu asedau digidol i’w defnyddio gan Bartneriaid yr Ŵyl Ymylol ar bosteri, ar wefannau ac ar ddeunyddiau printiedig eraill.
3. PARTNERIAID YR ŴYL
- Drwy dderbyn y Telerau ac Amodau yn y cytundeb hwn, rydych yn cytuno i ddod yn un o Bartneriaid yr Wythnos Fach.
- Byddwch yn creu digwyddiad(au) cyhoeddus yn lleol gyda cherddoriaeth fyw, neu’n cysylltu digwyddiadau sydd wedi’u trefnu eisoes â gweithgareddau gGŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.
- Byddwch yn sicrhau bod y digwyddiad(au) yn cynnal yr enw da sydd gan y BBC am ddarparu profiadau cerddoriaeth fyw i’r cyhoedd.
- Byddwch yn lawrlwytho ac yn defnyddio’r brandio, yn unol â’r canllawiau ar gyfer eu defnyddio.
4. Y DIGWYDDIADAU
- Bydd eich digwyddiad yn cael ei frandio fel rhan o ‘Gŵyl Ymylol Penwythnos Mwyaf BBC Music’. Ceir defnyddio’r brandio hyn ar gyfer digwyddiadau a gynhelir rhwng 18 Mai a 28 Mai 2018 yn unig.
- Ceir codi ffioedd am y tocynnau a'u dosbarthu, ond ni cheir codi’r prisiau llawer uwch na phrisiau safonol y farchnad. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau (ond os bydd y BBC yn penderfynu gosod darllediad allanol yn eich digwyddiad Chi, bydd y BBC yn gyfrifol am y costau hynny).
- Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y BBC yn gwybod am y digwyddiadau ac am yr artistiaid/bandiau sy’n perfformio, oherwydd efallai bydd y BBC am roi sylw i’ch digwyddiad ar y Teledu, ar y Radio neu Ar-lein.
- Mae'n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw newidiadau o ran yr amserlen neu’r perfformwyr yn cael eu hadlewyrchu ar y rhestrau sydd ar ein tudalennau, fel eu bod yn gywir bob amser.
- Bydd gan leoliad y digwyddiad yswiriant priodol neu sicrwydd priodol arall ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, a bydd yn cydymffurfio â'r deddfwriaethau perthnasol o ran mynediad, iechyd a diogelwch, diogelu plant a diogelu data.
- Nid yw'r BBC yn gyfrifol am ddiogelwch wrth gynhyrchu a rheoli’r digwyddiadau hyn. Y lleoliad, yr hyrwyddwyr a threfnwyr y digwyddiad fydd yn ysgwyddo'r risgiau a’r cyfrifoldebau cysylltiedig.
5. RHESTRAU
- Fel darpar Bartner i'r Ŵyl, byddwch yn cofrestru eich diddordeb â'r BBC.
- Bydd y broses gofrestru yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 5 Mawrth 2018, a bydd yn cau am 23:59 ar 11 Mai 2018.
- • Mae’r BBC wedi penodi Skiddle yn ddarparwr tocynnau a/neu restrau. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dolen Skiddle, a gaiff ei hanfon drwy e-bost gan y BBC, er mwyn rhestru’ch digwyddiad ar dudalennau’r Wythnos Fach. Bydd angen i chi gofrestru / ymuno â rhwydwaith Skiddle a chytuno ar ei Delerau Defnyddio.
- Yna, bydd Skiddle yn rhestru digwyddiadau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf ar ei safle, o dan ein tudalennau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.
- Mae’n rhaid i holl ddigwyddiadau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf gael eu rhestru ar Skiddle er mwyn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o weithgareddau’r Wythnos Fach. Bydd unrhyw ddigwyddiad sydd wedi’i frandio fel un o ddigwyddiadau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf ond sydd heb ei restru ar Skiddle yn torri’r Telerau hyn.
- Gall Lleoliadau/Hyrwyddwyr/Trefnwyr ddefnyddio eu darparwyr tocynnau presennol os ydynt eisoes ar waith, ar yr amod bod y digwyddiad yn cael ei restru ar dudalennau’r Gŵyl Ymylol gan Skiddle. Ni all y wybodaeth ar Skiddle gynnwys dolenni i wefannau allanol ar gyfer prynu tocynnau, ond gall gynnwys y geiriau canlynol:
‘cysylltwch â’r lleoliad i gael manylion am y tocynnau’
6. BRANDIO
- Bydd dolen i’r asedau brandio a chanllawiau ar sut i’w defnyddio yn cael eu hanfon atoch ar ôl i chi dderbyn y Telerau ac Amodau, ac ar ôl i chi gael eich derbyn fel un o Bartneriaid yr Ŵyl.
- Ceir manylion am y drwydded frandio yn Atodiad I.
- Drwy lwytho’r asedau i lawr, rydych chi’n cytuno i lynu at y canllawiau brandio.
- Dim ond mewn perthynas â digwyddiadau Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf y gellir defnyddio’r asedau.
Rydych yn cytuno i gyfrannu at waith ac arferion cydweithredu gyda’r BBC a’i bartneriaid eraill sy'n ymwneud â’r Penwythnos Mwyaf a Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu eich manylion personol fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'r rhif ffôn rydych chi wedi’i roi fel y gallwn anfon diweddariadau atoch yn ymwneud â Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf. Bydd eich data personol yn cael ei rannu â Monterosa, trydydd parti sy’n cael ei gytundebu gan y BBC i helpu â Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf, ac o fewn y BBC, a hynny at ddiben cynnal a hyrwyddo’r Ŵyl Ymylol. Bydd y data'n cael ei gadw tan fis Medi 2018 oni bai fod cyfnod cadw hirach yn ofynnol neu’n cael ei ganiatáu drwy gyfraith. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd partïon eraill y tu allan i'r BBC, oni bai fod hynny'n ofynnol o dan y gyfraith. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi am gymryd rhan yn yr Ŵyl Ymylolmwyach, drwy gysylltu â ni yn Biggestweekendfringe@bbc.co.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd mae'r BBC yn ymdrin â data yma bbc.kongjiang.org/www.bbc.co.uk/privacy/
ATODIAD I
TRWYDDED AR GYFER DEFNYDDIO BRANDIO PENWYTHNOS MWYAF BBC MUSIC
1 PARTÏON
(1) Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, corfforaeth gyhoeddus sydd wedi’i hymgorffori yng nghyfreithiau Cymru a Lloegr gan y Siarter Frenhinol. Mae ei phrif swyddfa yn Broadcasting House, Portland Place, Llundain, W1A 1AA (“y BBC”); a
(2) Chi “Partner yr Ŵyl Ymylol”
Sef y “Partïon” gyda’i gilydd
2 Brandio’r BBC
Bydd brandio Gŵyl Ymyloly Penwythnos Mwyaf yn cael eu darparu gan y BBC drwy e-bost ar ôl i chi gofrestru.
3 DISGRIFIAD O’R EITEM(AU)
Y brandio i’w ddefnyddio ar bosteri, ar daflenni ac ar-lein
4 DIBEN YR EITEM(AU)
I hyrwyddo digwyddiadau Partneriaid Gŵyl Ymyloly Penwythnos Mwyaf rhwng 18 a 28 Mai 2018.
5 CYFNOD DEFNYDDIO
O: pan fyddwch yn derbyn y Telerau ac Amodau
Tan: 28 Mai 2018
6 TIRIOGAETH
Y DU (gan ddeall na fydd safleoedd Partneriaid yr Ŵyl o reidrwydd yn cael eu rhwystro’n ddaearyddol)
Mae'r BBC yn rhoi trwydded anghyfyngedig i Bartneriaid yr Ŵyl Ymylol ddefnyddio brandio Gŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf a ddisgrifir yn adran 2 uchod (“Brandio’r BBC”) yn unol â’r amodau canlynol:
1. Dim ond ar yr eitemau a ddisgrifir yn adran 3 y ceir defnyddio Brandio’r BBC. Mae’n rhaid defnyddio'r rhain at y diben a nodir yn adran 4 yn unig, a dim ond yn y Diriogaeth a nodir yn adran 6 y ceir eu dosbarthu (neu, os yw’n dudalen ar y rhyngrwyd, rhaid iddi fod wedi’u hanelu at y Diriogaeth honno). Mae’n rhaid i Bartneriaid ddefnyddio Brandio’r BBC yn unol â’r Canllawiau Brandio.
2. Ceir eu defnyddio fel y dangosir ar y sampl o’r eitemau a ddisgrifir yn Adran 3 yng nghyswllt defnydd Partneriaid o Frandio’r BBC.
3. Rhaid i’r gwaith celf ar gyfer unrhyw logo a ddefnyddir ar yr eitemau gael ei ddarparu gan y BBC.
4. Byddwch yn defnyddio Brandio’r BBC ar eitemau cyhoeddus yn ystod y cyfnod a ddangosir yn adran 5 uchod. Fodd bynnag, byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio Brandio’r BBC yn gynharach na’r dyddiad a nodir os cewch gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan y BBC oherwydd nad ydych chi wedi cydymffurfio â thelerau’r drwydded hon, neu eich bod yn tarfu ar hawliau’r BBC wrth ddefnyddio Brandio’r BBC.
5. Bydd yr eitem(au) hyn yn cael eu defnyddio yn unol ag enw da’r BBC a'r Nod(au) Masnach ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Masnachu Teg y BBC ac unrhyw ganllawiau perthnasol a roddwyd i chi gan y BBC, yn ogystal ag unrhyw amodau yn y Prif Gytundeb, a’r cyfreithiau, codau ymarfer, safonau a rheoliadau perthnasol.
6. Rydych chi’n cydnabod mai’r BBC yw perchennog Brandio’r BBC, yr hawlfraint sydd ynddynt a’r ewyllys da sy'n perthyn iddynt, a’r BBC fydd yn berchen ar unrhyw fudd a gewch o ddefnyddio Brandio’r BBC. Ni fyddwch yn gwneud nac yn ceisio gwneud cais am unrhyw nod masnach mewn perthynas â Brandio’r BBC. Nid yw'r BBC yn gwarantu na fydd hawliau trydydd partïon yn gwrthdaro o fewn Brandio’r BBC yn unrhyw ran o’r Diriogaeth, a byddwch yn indemnio’r BBC am unrhyw golled iddo o ganlyniad i ddefnyddio Brandio’r BBC ac, os bydd y BBC yn gwneud hynny'n ofynnol, dylech yswirio eich hun yn erbyn yr atebolrwydd hwn.
7. Ni fyddwch yn defnyddio Brandio’r BBC mewn unrhyw ffordd neu at unrhyw ddiben gwahanol i'r hyn a nodir yn y drwydded hon, nac yn defnyddio enw’r BBC nac unrhyw un o’i nodau masnach, dim ond yn unol â hon ac unrhyw drwydded ysgrifenedig arall a roddir i chi gan y BBC.
8. Os byddwch yn dod yn ymwybodol bod unrhyw beth yn tarfu ar hawliau’r BBC yng nghyswllt Brandio’r BBC, neu'n dod yn ymwybodol o unrhyw honiad eich bod yn tarfu ar hawliau unrhyw un arall wrth eu defnyddio, byddwch yn rhoi gwybod i Bennaeth Eiddo Deallusol a Chyfreithiol Corfforaethol y BBC yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Ni fyddwch yn gwneud dim byd arall, oni bai am gynorthwyo’r BBC ym mha bynnag ffordd sy'n rhesymol mewn unrhyw gam y gallai ei gymryd yn erbyn y troseddwr neu'r hawlydd, yn ddibynnol ar yr achos.
9. Ni fyddwch yn awdurdodi unrhyw drydydd parti i ddefnyddio Brandio’r BBC nac yn neilltuo, yn trosglwyddo, yn is-drwyddedu nac yn cael gwared â’ch hawliau o dan y drwydded hon mewn unrhyw ffordd arall.
10. Mae’r drwydded hon yn nodi’r cytundeb cyfan rhwng y BBC a chi mewn perthynas â’r mater hwn, a bydd yn cael ei ddehongli yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.