Y Penwythnos Mwyaf: Abertawe
Alla i roi fy nhocyn i rywun arall?
Mae tocynnau ar gyfer Y Penwythnos Mwyaf wedi eu hargraffu gydag enw’r prif brynwr arnyn nhw; fodd bynnag gallwch drosglwyddo tocynnau i deulu a ffrindiau, ac NID oes rhaid i’r prif brynwr fynychu’r digwyddiad HEBLAW yn yr achosion yma:
- Ar gyfer pobl a ymgeisiodd am docynnau Categori 1 a 2, os nad yw’r tocynnau yn cyrraedd yn y post ac mae’n rhaid i’r cwsmer gasglu rhai eraill, bydd angen ID â llun a phrawf cyfeiriad. Mae hyn yn cael ei wneud er mwyn gwirio’r cyfeiriad a’r hawl i dderbyn tocyn i rywun sy’n byw yn lleol.
- Ar gyfer pobl a ymgeisiodd am docynnau Categori 3 yn Abertawe, mae’r tocynnau yn rhai di-bapur ac mae’n rhaid i’r prif brynwr ddod i’r digwyddiad, gydag ID a’r cerdyn gafodd ei ddefnyddio wrth archebu. Mae’n rhaid i bawb yn y grŵp gyrraedd gyda’i gilydd.
Oes rhaid i bawb yn fy ngrŵp gyrraedd yr un pryd?
Ddim o reidrwydd. Os ydych chi wedi derbyn eich tocynnau yn y post mae hi’n dderbyniol i chi gyrraedd ar wahân i’r prif brynwr. Fodd bynnag, bydd rhaid i bobl a archebodd docynnau Categori 3 ar gyfer Abertawe (tocynnau di-bapur) a’r rheiny sydd yn casglu tocynnau yn lle rhai sydd heb eu cyrraedd, mewn unrhyw leoliad, gyrraedd gyda’i gilydd.
Oes rhaid i mi ddod ag ID gyda mi?
EFALLAI y bydd rhaid i chi ddangos ID ger mynedfa’r digwyddiad er mwyn gwirio eich oed. Nid oes cyfyngiad oed i ddod i’r digwyddiad; fodd bynnag mae’n RHAID i blant 16 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn 18+ oed er mwyn dod i mewn.
Mathau o IDs fydd yn cael eu derbyn: pasbort dilys, trwydded yrru â llun yr UE, cerdyn adnabod â llun ac arno hologram National Proof Of Age Standards Scheme (PASS).
Nid oes rhaid i’r enw ar eich ID fod yr un enw â sydd ar y tocyn.
Mae fy ffrind wedi rhoi ei d/thocyn i mi, ond mae ei enw ef/hi arno. Alla i ei ddefnyddio?
os nad yw eich ffrind wedi canslo’r tocyn am ryw reswm, mae hi’n hollol iawn i chi ei ddefnyddio.
26ain-27ain Mai 2018
Mae’r tocynnau ar gyfer Y Penwythnos Mwyaf yn Abertawe I GYD WEDI EU GWERTHU

Dydd Sadwrn Mai 26ain – Giatiau yn agor 10:30
- Main Stage (Artist 1af ar y Prif Lwyfan [Ed Sheeran] 12:00, Prif Lwyfan yn gorffen tua 22:00)
- Radio 1's Other Stage
Dydd Sul Mai 27ain – Giatiau yn agor 11:00
- Main Stage (Artist 1af ar y Prif Lwyfan 12:00, Prif Lwyfan yn gorffen tua 22:00)
- Radio 1's Other Stage
* Nodwch y gallai’r holl amseroedd newid