Main content

Mynediad Anabl

Sut ydw i’n ceisio am y cynllun hygyrchedd?

Er mwyn gwneud cais am ein cynllun hygyrchedd, yn gyntaf, bydd rhaid i chi brynu tocyn. Unwaith rydych chi wedi prynu eich tocyn bydd rhaid i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen gais anghenion mynediad sydd yn cynnwys nifer o gwestiynau ynglŷn â’ch anghenion yn ystod y digwyddiad.

:: Ffurflen Gais Anghenion Mynediad (Saesneg)

(Nodwch: Mae’r dudalen yn agor mewn ffenest newydd. Drwy glicio ar y ddolen i’r ffurflen anghenion mynediad, byddwch chi’n cael eich anfon at wefan allanol sy’n cael ei gynnal gan Inbeta ar ran Festival Republic. Bydd Festival Republic yn prosesu eich manylion personol yn unol â’i bolisi preifatrwydd ac ni fydd gennym ni atebolrwydd ynglŷn â’ch defnydd o wefan Inbenta.)

Mae ein cynllun hygyrchedd yn eich caniatáu i wneud cais i ddefnyddio’r cyfleusterau canlynol:

  • Llwyfan gwylio sydd â mynediad i gadeiriau olwyn ar gyfer y prif lwyfannau ym mhob digwyddiad a Llwyfan 2 yn Abertawe
  • Maes parcio hygyrch
  • Tocyn am ddim i’ch cynorthwy-ydd
  • Toiledau hygyrch

Prawf dilys o anabledd

Gofynnwn i chi gynnwys un o’r dogfennau isod gyda’ch ffurflen:

  • PIP (Personal independence payment)
  • DLA – gofal a/neu symudedd
  • Llythyr gan weithiwr meddygol
  • Cofrestriad B/byddar neu ddall
  • Access Card neu debyg gydag eicon +1 ar gyfer tocynnau’r cynorthwy-ydd
  • Bathodyn Glas – dim ond ar gyfer ceisiadau am drwydded parcio

* Nodwch, bydd pob dogfen sy’n cael eu hanfon yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.

Bydd Festival Republic, sef trefnydd penodedig digwyddiadau Y Penwythnos Mwyaf ar ran y BBC, yn rheoli’r cynllun hygyrchedd. Os nad oes gennych chi’r tystiolaeth uchod ond yn teimlo eich bod angen cymorth i gael mynediad i’r ŵyl, cysylltwch â thîm mynediad Festival Republic YMA.

Os bydd unrhyw un sy’n cyrraedd ar y diwrnod heb wneud trefniadau ymlaen llaw, efallai na fydd modd iddyn nhw gael mynediad i’n cyfleusterau, fodd bynnag (ble bo’n bosib) byddwn bob amser yn ceisio cwrdd â cheisiadau hwyr.

Cynllun tocynnau i gynorthwywyr

Os nad oes modd i gwsmer fynychu digwyddiad heb gymorth rhywun arall, yna bydd tocyn ychwanegol yn cael ei ddarparu am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd. Sicrhewch fod y person sydd yn mynychu gyda chi yn barod ac yn gallu eich cynorthwyo drwy gydol eich ymweliad, ac yn gallu eich helpu i adael y digwyddiad, pe bai’n rhaid gwagio’r safle.

Dylech wneud cais am docyn i’ch cynorthwy-ydd drwy’r ffurflen anghenion mynediad – bydd dolen iddi yn cael ei gyhoeddi ar y tudalennau yma pan mae’r tocynnau yn mynd ar werth. Nodwch, dim ond tîm mynediad Festival Republic all gymeradwyo tocynnau cynorthwywyr.

Peidiwch â phrynu tocyn i’ch cynorthwy-ydd pan ydych chi’n prynu eich tocyn, oherwydd ni fydd yn cael ei ad-dalu os yw eu tocyn yn cael ei gymeradwyo. Sicrhewch eich bod yn gwneud cais am docyn i’ch cynorthwy-ydd o fewn pedair wythnos i brynu eich tocyn chi, gan fod hyn yn ein caniatáu i gynllunio ar gyfer y nifer cywir o gyfleusterau.

Rydw i wedi gwneud cais am docyn cynorthwy-ydd – beth nesaf?

Bydd Festival Republic yn prosesu eich cais o fewn 4 wythnos i dderbyn eich ffurflen ac unrhyw ddogfennaeth gefnogol. Bydd Festival Republic yn anfon eich cadarnhad ar e-bost unwaith mae eich cais wedi cael ei gymeradwyo. Bydd yr e-bost yn cadarnhau’r cyfleusterau rydych chi wedi gwneud cais amdanyn nhw ac yn cadarnhau eich tocyn cynorthwy-ydd, os ydych chi wedi gwneud cais am un.

Mae’r e-bost cadarnhau yn cymryd lle tocyn cynorthwy-ydd, ac felly bydd angen ei argraffu a dod ag ef gyda chi.

Byddwch hefyd yn derbyn canllaw mynediad yn yr wythnos cyn y digwyddiad, sy’n egluro manylion cyrraedd, y gwybodaeth mwyaf diweddar a map o’r safle sy’n dangos y cyfleusterau hygyrch.

Os yw eich cais am drwydded parcio wedi ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn hwn yr un pryd. Mae’r trwyddedau yn unigryw i’r prynwr, a dylech ei argraffu, llenwi’r holl fanylion angenrheidiol a’i osod yn y cerbyd.

Pa gyfleusterau anabl sydd ar gael yn y digwyddiad?

Mae’r BBC a’i phartneriaid wedi eu hymrwymo i sicrhau fod digwyddiadau Y Penwythnos Mwyaf yn hygyrch ar gyfer pawb. Isod mae rhestr o’r cyfleusterau fydd ar gael ym mhob digwyddiad ar gyfer rhai sydd ag anghenion mynediad.

Toiledau

Bydd toiledau hygyrch wedi eu lleoli o gwmpas y safle ac ar y llwyfan gwylio. Bydd lleoliad pob toiled wedi ei nodi yn y canllaw byddwch yn ei dderbyn cyn y digwyddiad.

Rydyn ni bob amser yn anelu i gadw’r safonau uchaf, ac yn cyflogi glanhawyr ynghyd a chwmnïoedd cynnal a chadw a fydd yn gweithio drwy gydol y digwyddiad. Fodd bynnag os ddowch chi ar draws toiled sydd ddim yn dderbyniol, dywedwch wrth aelod o’r tîm mynediad neu aelod o’r staff rheoli tyrfa, fydd yn hawdd i’w hadnabod oherwydd eu tabardiau.

Er ein bod ni’n annog cwsmeriaid sydd ddim yn anabl i beidio defnyddio’r cyfleusterau yma, nid yw’r holl doiledau ar glo neu yn cael eu gwarchod drwy’r amser. Rydyn ni’n gofyn yn garedig i’r cynorthwywyr beidio â defnyddio’r toiledau hygyrch.

Llwyfan gwylio

Bydd yna lwyfan gwylio gyda seddi wedi ei leoli ger y prif lwyfan. Mae yna ramp sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar y llwyfan gwylio, ynghyd â thoiledau hygyrch a chyffredin, pwyntiau gwefru cadeiriau trydanol a bar yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd. Bydd yna hefyd lwyfan gwylio ger Llwyfan 2.

Mae’r llwyfan gwylio yn gyfyng ac ar gyfer cwsmeriaid ag anghenion mynediad gydag un cynorthwy-ydd yn unig. Er mwyn archebu lle ar y llwyfan gwylio, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen anghenion mynediad. Nodwch, mae’r seddi ar y llwyfan ar sail y cyntaf i’r felin, fodd bynnag mae croeso i gwsmeriaid ddod â’u cadeiriau plygu eu hunain. Mae croeso i gynorthwy-wyr ddefnyddio’r cadeiriau ar y llwyfan, oni bai bod cwsmer ag anghenion mynediad angen cadair. Os ydych chi wedi archebu lle ar y llwyfan, sicrhewch eich bod chi’n cyrraedd y digwyddiad mewn digon o amser i gofrestru â’r tîm mynediad.

Pwyntiau gwefru cadeiriau trydanol

Mae’r rhain ar gael ar y llwyfan gwylio.

Iaith arwyddion (BSL)

Bydd dehongliad iaith arwyddion o’r perfformiadau ar gael ar y llwyfan gwylio. Os hoffech chi gael y gwasanaeth yma, mae’n rhaid i chi ofyn am fynediad i’r llwyfan gwylio.

Lŵpiau i bobl byddar (Induction Loops)

Bydd lŵpiau ar gyfer cwsmeriaid byddar ar gael ar y giât cofrestru i gwsmeriaid ag anghenion mynediad ac ar y llwyfan gwylio.

Parcio hygyrch

Mae’r llefydd parcio ar gyfer pob digwyddiad yn gyfyngedig, ac ond yn cael ei ganiatáu gyda’r trwydded parcio sydd wedi cael ei ddarparu gan y tîm mynediad. Mae parcio hygyrch fel arfer ar gyfer pobl sydd â Bathodynnau Glas, ac mae’n rhaid gwneud cais am hyn ymlaen llaw.

Os ydych chi’n teimlo na fyddech chi’n medru mynychu’r digwyddiad heb le parcio hygyrch, ond heb Fathodyn Glas, cysylltwch â ni.

Bydd trwyddedau parcio yn cael eu hanfon atoch chi wythnos cyn y digwyddiad.

Mynediad hygyrch

Bydd yna fan cofrestru i bobl ag anghenion mynediad ym mhob digwyddiad, ble bydd aelod o’r tîm mynediad ar gael drwy gydol y digwyddiad. Bydd y lleoliad yn cael ei rannu cyn y digwyddiad a bydd y cyfarwyddiadau yn cael eu cynnwys yn y canllaw a fydd yn cael ei anfon ymlaen llaw.

Rydyn ni’n caniatáu cwsmeriaid ag anghenion mynediad a thri aelod o’u criw i ddefnyddio’r fynedfa hygyrch. Maen rhaid i unrhyw aelodau eraill o’u criw ddefnyddio’r brif fynedfa.

Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cwsmeriaid anabl

Meddyginiaeth

Os ydych chi angen dod â meddyginiaeth gyda chi i’r digwyddiad, dewch â llythyr doctor neu bresgripsiwn ar ei gyfer os nad yw’n hawdd i’w adnabod. Gallwch gadw meddyginiaeth yn yr oergelloedd yn y mannau cymorth cyntaf os oes angen.

Os ydych chi angen mwy o gyngor, cysylltwch â’r tîm mynediad YMA

Effeithiau golau

Gallai peiriannau mwg, goleuadau strôb, tân gwyllt ac effeithiau arbennig eraill gael eu defnyddio yn ystod digwyddiadau Y Penwythnos Mwyaf. Dylai unrhyw un sydd yn cael eu heffeithio gan rhain gadw hyn mewn cof.

Cadeiriau a seddi

Bydd nifer cyfyngedig o gadeiriau ar gael i’w defnyddio ar y llwyfan gwylio, felly rydyn ni’n argymell cwsmeriaid sydd ag anghenion mynediad i ddod â’u cadair eu hunain gyda nhw. Bydd cadeiriau ond yn cael eu caniatáu drwy’r fynedfa hygyrch, at ddefnydd rhai sydd ag anghenion mynediad, sydd wedi cofrestru ymlaen llaw.

Diogelwch

Bydd staff rheoli tyrfa yn gallu cael eu hadnabod drwy eu tabardiau. Bydd gan pob un lyfryn i’w helpu i allu ateb y rhan fwyaf o gwestiynau. Byddan nhw wedi cael eu briffio ar holl agweddau ar y digwyddiad ac ar gael i helpu a rhannu gwybodaeth.

Os oes angen gwagio’r safle, sicrhewch fod eich cynorthwy-ydd yn ymwybodol mai ef/hi yw’r un i’ch helpu gyntaf. Bydd aelodau staff rheoli tyrfa ger y llwyfan gwylio yn helpu i symud pawb i fan diogel.

Diffygion/cyflyrau dros dro

Nodwch nad yw’n cyfleusterau hygyrch yn gallu gwasanaethu pobl sydd â diffygion/cyflyrau dros dro, fel esgyrn wedi torri, anafiadau diweddar a merched beichiog. Mae’r cyfleusterau ar gael at ddefnydd penodol cwsmeriaid ag anghenion mynediad ac rydyn ni’n gofyn i chi, yn garedig, i barchu hyn.

Os oes gennych chi gyflwr dros dro yn ystod yr ŵyl, rydyn ni’n cynghori bod gennych chi:

  • Esgidiau cyfforddus
  • Dillad cynnes a thywydd gwlyb
  • Eli haul a sbectol haul

Mae cyfleusterau meddygol a lles ar gael i bawb a bydd mannau cymorth cyntaf wedi eu lleoli ar draws pob lleoliad.

Cysylltwch â ni

Os ydych chi angen cymorth bellach neu wybodaeth sydd ddim ar y wefan, cysylltwch â ni:

Post: Access Team Live Nation, Regent Arcade House, 19 – 25 Argyll St, W1F 7TS

E-bost: accessBBCswansea@festivalrepublic.co.uk Rydyn ni’n ceisio ymateb o fewn 72 awr

Ffôn: 02070093490. Mae ein llinellau ffôn ar agor Dydd Llun - Dydd Gwener 10am – 6pm. (Os yw’r llinellau’n brysur, gadewch neges a byddwn ni’n cysylltu’n ôl.)