Main content

Diogelwch

Rydyn ni’n cymryd diogelwch ein cynulleidfaoedd o ddifrif. Os ydych chi’n dod i un o sioeau y Penwythnos Mwyaf, rydyn ni eisiau i chi gael hwyl, felly cymerwch sylw o’r pethau rydyn ni’n ei wneud er mwyn helpu pawb i gael profiad gwych a diogel. Mae yna ambell i beth y gallwch chi ei wneud hefyd…

Beth ydyn ni’n ei wneud?

  • Rydyn ni’n archwilio pob bag sy’n dod i’r digwyddiad. Rydyn ni wedi cyfyngu maint y bagiau sy’n cael eu caniatáu er mwyn gwneud hyn yn haws – un bag i bob person, ddim yn fwy na maint A4. Efallai y byddwn ni hefyd yn chwilio bagiau unwaith rydych chi yn yr arena.
  • Mae hi’n debygol y byddwch yn cael eich chwilio wrth ddod i mewn hefyd – gall ffyn chwilio gael eu defnyddio. Efallai y byddwn ni hefyd yn eich chwilio unwaith rydych chi yn yr arena.
  • Bydd staff diogelwch yn amlwg ac yn crwydro y tu mewn a thu allan i’r arena.
  • Bydd cŵn synhwyro hefyd yn crwydro.
  • Mae rhwydwaith o gamerâu cylch-cyfyng (CCTV) wedi eu gosod yn y feniw, a byddan nhw’n cael eu monitro o’n hystafell reoli.
  • Rydyn ni wedi gweithio’n agos â’r Heddlu a gwasanaethau argyfwng eraill er mwyn cynllunio digwyddiad diogel ar gyfer pawb.
  • Bydd yna batrôls Heddlu o amgylch y digwyddiad a’r ardal leol.
  • Bydd yna hefyd nifer o fesurau diogelwch eraill na fyddwch chi’n gallu eu gweld.

Beth allwch chi ei wneud?

  • Gwnewch yn siŵr eich bod ond yn dod ag un bag bach gyda chi (ddim yn fwy na maint A4 – Ll21cm x U30cm x D8cm) neu ddim bag o gwbl, hyd yn oed. Peidiwch â gorlwytho eich pocedi, oherwydd bydd hyn hefyd yn arwain at oedi. Ni fydd yna ystafell gotiau na lle i storio, felly peidiwch â gadael bagiau ger mynedfeydd na’r ardal gyfagos. Bydd unrhyw eitemau sydd wedi eu gadael yn cael eu cymryd oddi yno a’u dinistrio.
  • Darllenwch y rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd er mwyn sicrhau nad ydych chi’n dod ag unrhyw beth a allai achosi oedi i chi yn y pwyntiau chwilio. Ni fydd eitemau sydd yn cael eu hildio i ni yn cael eu rhoi nôl i chi.
  • Cyrhaeddwch yn gynnar gan adael digon o amser i fynd drwy’r pwyntiau chwilio. Dydyn ni ddim eisiau i chi fethu eich hoff artist.
  • Cadwch eich tocynnau’n ddiogel, a pheidiwch â chael eich temtio i brynu rhai ychwanegol gan rywun arall. Nid oes sicrwydd eu bod yn rhai go iawn.
  • Os welwch chi rhywbeth sydd ddim yn edrych yn iawn, dywedwch wrth aelod o’r staff diogelwch neu’r Heddlu cyn gynted â phosib.
  • Siaradwch â’r staff diogelwch, maen nhw yno er mwyn eich helpu chi i gael diwrnod gwych ynghyd â’ch cadw’n ddiogel.