Teithio
Dydd Sadwrn 26ain Mai
Giatiau yn agor- 11:00
Artist 1af ar y Prif Lwyfan (Ed Sheeran)-12:00
Prif Lwyfan yn gorffen- tua 22:00

Dydd Sul 27ain Mai
Giatiau yn agor- 11:00
Artist 1af ar y Prif Lwyfan- 12:00
Prif Lwyfan yn gorffen- tua 22:00
Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion ynglŷn â thrafnidiaeth a pharcio a gwybodaeth ddefnyddiol arall drwy ddefnyddio’r dolenni ar dudalennau’r lleoliadau penodol. Bydd rhain yn cael eu diweddaru gyda gwybodaeth ychwanegol pan fydd ar gael.
Nodwch, ar gyfer rhai lleoliadau, bydd rhaid i chi hefyd brynu tocynnau i barcio eich car neu gymryd bws wennol er mwyn cyrraedd y digwyddiad – mae’r manylion ar dudalennu’r lleoliadau penodol.
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar wefan wybodaeth Abertawe ynglŷn â’r digwyddiad
Car: Bydd yna nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gael yn y lleoliad, a bydd tocynnau yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd y pris a gwybodaeth ynglŷn â sut i archebu yn cael eu cadarnhau maes o law.
Parcio a theithio: Bydd bws wennol yn cludo pobl i safle’r digwyddiad. Bydd tocynnau ar gael i’w prynu o fis Mawrth ymlaen, a’r pris yn cael ei gadarnhau maes o law.
Bws: Mae Parc Singleton lai na milltir o ganol dinas Abertawe a gallwch ei gyrraedd ar un o nifer o fysiau cyhoeddus.
Ar droed: Mae Parc Singleton tua 25 munud ar droed o ganol dinas Abertawe.
Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen yma pan mae ar gael, a bydd hefyd yn cael ei anfon at bawb â thocyn, ar yr e-bost a gafodd ei ddefnyddio wrth brynu. Bydd gwefan Cyngor Abertawe yn cyhoeddi’r holl wybodaeth am deithio maes o law.