Bwyd a diod
Bwyd
Rydyn ni wedi chwilio drwy Abertawe â chrib mân er mwyn dod â bwytai gorau’r ddinas atoch chi, ynghyd â rhai o’r hen ffefrynnau. Bydd gan fwyd-garwyr ddewis o dros 40 o stondinau bwyd stryd blasus, o fwyd Americanaidd clasurol, fel Philly cheese steaks a mac ‘n’ cheese, i gigoedd barbeciw wedi eu tynnu, pizzas wedi eu coginio mewn popty pren, bara gan bobwyr artisan, nwdls o Vietnam, byrgyrs sydd wedi ennill gwobrau a tagines Morocaidd fydd yn eich atgoffa o Marrakesh... Mae gennym ni bopeth!
Os oes gennych chi ddant melys, cofiwch drio’r churros sy’n siŵr o ddod â dŵr i’ch dannedd, ac rydyn ni wir yn gobeithio y bydd yr haul yn tywynnu yn Abertawe ar benwythnos gŵyl y banc er mwyn i chi gael mwynhau ychydig o hufen iâ!
Mae yna hefyd ddigonedd o ddewis i’n cyfeillion figan, llysieuol a di-glwten, ynghyd ag amrywiaeth eang o ddewisiadau bwyd i blant. Mae ein holl stondinau pop-yp yn defnyddio cynhwysion lleol gan greu cyfuniadau cyffrous a chreadigol i bawb!
Diod
O goffi ffres i ysgytlaeth hufennog trwchus, mae ein stondinau pop-yp unigryw yn cynnig rhestr hirfaith o ddiodydd poeth ac oer, a gyda phedwar prif far o fewn yr arena, fyddwch chi byth yn sychedig. Gallwch ddewis o gwrw casgen lleol fel SA Brains a bar llawn sy’n cynnwys y pethau arferol – gwirodydd, cwrw, seidr, gwin, proseco a siampên?
Bydd yna fariau a stondinau yn gwerthu cwrw, gwin, gwirodydd, diodydd meddal a diodydd poeth. Rydyn ni’n dilyn polisi ‘Herio 25’ ac efallai y bydd rhaid i chi ddarparu ID i brofi eich oed wrth brynu alcohol. Mathau o IDs fydd yn cael eu derbyn: pasbort dilys, trwydded yrru â llun yr UE, cerdyn adnabod â llun ac arno hologram National Proof Of Age Standards Scheme (PASS).

Gallwch ddod â bwyd a diodydd meddal i’r digwyddiad ar eich cyfer chi, os yw’r diod meddal mewn cynhwysydd plastig neu bapur, heb ei agor ac wedi ei selio, a ddim yn dal mwy na 500ml – mae hyn wedi ei gyfyngu i un y person. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n dod â photel blastig (500ml neu lai) gyda chi, fel y gallwch ei ail-lenwi yn y mannau tapiau dŵr ar y safle.