Main content

Dr Eurfyl ap Gwilym

Beti George yn sgwrsio gydag Dr Eurfyl ap Gwilym, economegydd ac arbenigwr busnes. Beti George chats to Dr Eurfyl ap Gwilym, Welsh economist.

Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o’r ffaith fod o ddim yn cyfadde’ ei fod o’n anghywir ac mi ddaliodd arno.
Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o’r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You’re the Paxman man! Well Done”.

Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu’n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o’r Iseldiroedd. Bu’n gweithio gyda GE. Bu’n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.

Bu’n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu’n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".

Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 27 Maw 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Stuart Burrows

    Bugeilio'r Gwenith Gwyn

    • Songs of Wales.
    • Tŷ Cerdd Records.
    • 18.
  • Dafydd Iwan

    Mae'n Wlad I Mi

    • Cynnar.
    • Sain.
    • 20.
  • John Eifion & Côr Penyberth

    Gweddi Dros Gymru

    • Tri Degawd Sain (1969 - 1999) CD2.
    • SAIN.
    • 17.
  • Karl Jenkins

    Adiemus

    Singer: Miriam Stockley. Singer: Mary Carewe. Performer: Pamela Thorby. Performer: Mike Ratledge. Orchestra: London Philharmonic Orchestra. Conductor: Karl Jenkins.
    • The Very Best Of Karl Jenkins (80th Birthday Edition).
    • Decca (UMO) (Classics).
    • 10.

Darllediadau

  • Sul 23 Maw 2025 18:00
  • Iau 27 Maw 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad