Main content

Mark Williams

Beti George yn sgwrsio gyda Mark Williams, sylfaenydd cwmni LIMB-art. Beti George chats with Mark Williams former Paralympic swimmer and medallist, and the founder of LIMB-art.

Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig .

Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.

Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.

Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda’r cwmni yn ennill un o Wobrau’r Brenin am ei fenter.

Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Maw 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • John Denver

    On the Road

  • Pink Floyd

    Time

  • Osh Gierke

    Oddi Wrthai

    • Oddi Wrthai.
    • Bryn Rock Records.
    • 1.
  • Nathan Carter

    Caledonia

    • Wagon Wheel.
    • Decca (UMO).
    • 5.

Darllediadau

  • Sul 16 Maw 2025 18:00
  • Iau 20 Maw 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad