Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Teulu

Teulu sydd dan sylw gan John Hardy ar ei ymweliad wythnosol ag archif Radio Cymru. Family is John Hardy's theme in this week's delve into the archive.

John Hardy yn trafod y teulu gydag eitemau yn cynnwys y sylwebydd chwaraeon Gareth Blainey yn sôn am ddylanwad ei rieni, sef y Parchedig Erfyl a Mari Blainey, Y Prifardd Dic Jones a'i chwaer Mary Jones yn sôn am eu diddordeb mewn barddoni, a Cassie Davies yn sôn am ddylanwad ei haelwyd yng Nghae Tudur, Tregaron.

Mae Alun Williams yn sgwrsio gyda Christmas Walters yn ei gartref yn Sarnia, Ontario yn 1985, sydd yn hel atgofion am fod yn un o bymtheg o blant. Ac mae'r diweddar Rhys Jones yn sôn am hanes teulu'r Von Trapp's, a anfarwolwyd yn y ffilm The Sound of Music.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 20 Rhag 2017 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 17 Rhag 2017 13:00
  • Mer 20 Rhag 2017 18:00