Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Chwaraeon

John Hardy yn cymryd golwg ar 40 mlynedd o archif chwaraeon Radio Cymru. John Hardy looks at 40 years of sport on Radio Cymru.

Mae John a'i westeion yn trafod deg o uchafbwyntiau byd chwaraeon fel y mae Radio Cymru wedi sylwebu arnynt ers 1977. Ymhlith y digwyddiadau y mae John hardy, Eleri Siôn, Dylan Griffiths a Gareth Charles yn eu trafod y mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros, tîm rygbi Cymru yn cipio'r Gamp Lawn, campau Shane Williams dros Gymru a buddugoliaethau Joe Calzaghe yn y sgwar bocsio.
Ond fe geir sylw hefyd i ddigwyddiadau dwys megis marwolaeth Garry Speed a thrychineb Hillsborough.
Ac yn ystod yr awr hefyd ceir buddugoliaeth tîm Wrecsam yn erbyn Arsenal a munud dyrchafiad Abertawe i'r Uwch Gynghrair bêl droed. Mae'n awr o ddigwyddiadau cofiadwy.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 13 Rhag 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 10 Rhag 2017 13:00
  • Mer 13 Rhag 2017 18:00