« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Erlid Mawr

Categorïau:

Glyn Evans | 12:14, Dydd Iau, 26 Ionawr 2012

A hithau, yfory, Ionawr 27, yn ddiwrnod cofio’r Holocost mae’r Lolfa yn paratoi i gyhoeddi llyfr sy’n talu teyrnged i deulu a ddioddefodd yn sgil polisi hil-laddiad rhai o dras Iddewig gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Ond mae’r llyfr, Yr Erlid, o arwyddocâd personol hefyd i’r wasg gan mai’r ddiweddar Kate Bosse-Griffiths, mam sefydlydd Y Lolfa, Robat Gruffudd, yw gwrthrych yr hanes.

 

Mae’r llyfr, gan ei mab arall, Heini Gruffudd, yn deillio o raglen ddogfen ar S4C, Y Trên i Ravensbruck,  a fu’n olrhain hanes dirdynnol teulu Kate Bosse-Griffiths yn yr Almaen Natsiaidd.

 

“Mae holl hanes eu hymdrechion i oroesi’r hunllef i’w ganfod yn llawn rhwng cloriau cyfrol newydd Heini Gruffudd,” meddai datganiad o’r wasg.

 

“Ceir hanes ysgytwol llofruddiaeth mam Kate Bosse-Griffiths, hunanladdiad ei modryb ac erlid y teulu i bob cwr o’r byd – hanes na fyddai’n bosib ei adrodd oni bai am y mil a mwy o ddalennau a gadwyd ym meddiant y teulu, yn llythyrau a dyddiaduron, yn ysgrifau a dogfennau. Ceir straeon o ddioddef ac arwriaeth, caru a chasáu, marwolaeth a goroesiad,” meddir.

 

Mae’r ddiweddar Kate Bosse-Griffiths a fu farw yn Abertawe fis Ebrill  1998 yn enw cyfarwydd yng Nghymru.

 

Fe’i ganwyd  Wittenberg-am-Elbe, Yr Almaen, yn ferch i Iddewes. Yr oedd ei thad yn geinicolegydd amlwg.

 

Er iddi raddio ac ennill doethuriaeth yn y Clasuron ac Eifftioleg collodd ei swydd yn adran Eifftoleg ac Archaeoleg Amgueddfa Berlin pan sylweddolwyd bod ei mam yn Iddewes gan beri iddi symud i Brydain lle cafodd swyddi ym Mhrifysgol Llundain ac wedyn yn amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen.

 

Yno y cyfarfu a phriodi y llenor, bardd ac ysgolhaig J Gwyn Griffiths a symud i Gymru gan fyw yn  gyntaf yn y Pentre, Rhondda, ac wedyn yn Y Bala ac Abertawe.

 

Dysgodd y Gymraeg yn rhugl gan ei gwneud yn iaith ei haelwyd a chyhoeddodd yn helaeth yn yr iaith gan ddod  yn adnabyddus am ei nofelau a’i storïau, yn ogystal ag am ei diddordeb mewn archaeoleg ac, yn arbennig, Eifftoleg. a magodd ddau o blant yn Gymry pybyr, sef Heini Gruffudd, awdur Yr Erlid, a Robat Gruffudd, perchennog gwasg y Lolfa.

 

Bu blynyddoedd y rhyfel yn rhai arbennig o ddirdynnol gyda’i mam yn marw yng ngwersyll caethiwo Ravensbruck a’i brawd, a oedd yn feddyg, yn gorfod dianc i Sweden.

 

  • Yr Erlid: Hanes Kate Bosse-Griffiths a’i theulu yn yr Almaen a Chymru adeg yr Ail Ryfel Byd.  Lolfa. £9.95

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.