Llygod a Chathod
Yr awdur Philip Pullman agorodd y drws i mi i lyfr annisgwyl o ysgytwol am yr Ail Ryfel Byd, Maus gan Art Spiegleman.
Digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn gwesty ger Abergele oedd yr achlysur, dipyn dros ddeng mlynedd yn ôl bellach, a Pullman yn brif siaradwr.
Dewisodd siarad am Maus Spiegelman a’i edmygedd o’r gwaith o ran ffurf, cynnwys ac effaith.
Mae’n naturiol cofio am yr achlysur hwnnw heddiw, diwrnod sydd wedi ei neilltuo i gofio’r Holocost gan mai cofnod ‘comic strip’ neu graffig o’r straen enbyd honno ar ddynoliaeth ydi Maus.
Cofiant ar ffurf cyfweliadau a lluniau cartŵn o fywyd tad yr arlunydd, Vladek Spiegelman, a’i brofiad personol ef a’i wraig Anja, ymhlith chwe miliwn a mwy o Iddewon eraill, o’r Holocost.
Mae’n gofnod ysgytwol o ran ei stori a’’r modd y’i darlunnir a’r teitl Maus (llygoden mewn Almaeneg) yn deillio o’r ffaith mai fel llygod y darlunnir yr Iddewon yn y stori a’r Natsïaid oedd a’u bryd ar eu difa yn gathod.
Mae anifeiliaid eraill hefyd a chymeriadau unffurf er mwyn tanlinellu gwiriondeb gwahaniaethu rhwng pobl ar sail hil.
Darlunnir bywyd Vladek yng Ngwlad Pwyl cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn garcharor gydag Anja, ac wedi hynny yn byw yn Efrog Newydd yn ceisio dygymod â’i orffennol.
Mae’n stori am ddigwyddiad anferthol ac ynddi bethau mawr i’w dweud a hynny mewn ffurf annisgwyl a hynny yn ei dro yn gwneud y cyfan yn fwy ysgytwol fyth. Mae lluniau sy’n brawychu.
Mae Maus yr unig gomic erioed i ennill gwobr Pulitzer a daeth yn destun astudiaeth mewn ysgolion a phrifysgolion yn cael ei drin fel cofnod hanesyddol ac fel ffuglen. Fe’i cyfieithwyd i ddeunaw o ieithoedd.
Er mai yn 1986 yr ymddangosodd y gyfrol gyntaf, o ddwy, yr oedd yn ffrwyth tair blynedd ar ddeg o waith cyn hynny gyda’r fersiwn greiddiol yn gweld golau dydd yn 1972 mewn cylchgrawn tanddaearol, Funny Aminals.
Ymddangosodd fersiwn estynedig yn 1977 mewn cylchgrawn arall o’r enw Raw a gyd-olygwyd gan Spiegelman a’i wraig, Françoise Mouly.
“Mae fy Nhad yn Gwaedu Hanes” - My Father Bleeds History – oedd teitl cyfrol gyntaf 1986 gyda’r ail, And Here My Troubles Began, yn cael ei chyhoeddi yn 1991.
Erbyn heddiw gellir eu prynu mewn un gyfrol.
Atgof trawiadol, ysgytwol a dirdynnol er gwaethaf – neu oherwydd – ei ffurf o staen enbyd ar ddynoliaeth.