« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau'r wythnos - dyfyniadau

Categorïau:

Glyn Evans | 17:50, Dydd Gwener, 20 Ionawr 2012

Detholiad arall o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnoas. A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw . . .

 

  • Mae hyn yn gyffrous ond rydym yn dal i alaru – Chris Coleman ydi rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru, yn olynu Gary Speed. "Yr unig ffordd i roi gwên yn ôl ar yr wyneb yw parhau i ennill gemau ond dwi ddim yn credu y byddwn ni byth yn dod dros golli Gary,” meddai yn ei gynhadledd newyddion gyntaf.   

  • Yr oedd pobl yn cyrraedd ceir Mercedes ac yn gwisgo trowsusau lledr a chotiau ffwr – Jason Edwards o gwmni ‘Edwards Coaches yn dweud wrth y ‘Wester Mail’ fod  gwyliau bws yn apelio at yr ifanc a’r ffasiynol heddiw yn ogystal â’r ddelwedd arferol o deidiau a neiniau.

  • Mae hi’n 90 mlynedd ers i Syr Ifan ab Owen Edwards wahodd plant Cymru i ymuno ag ef i sefydlu mudiad cyffrous a blaengar. Heddiw rydym yn ffyddiog fod yr Urdd yn parhau i fod yn gyffrous ac yn berthnasol i fywydau pobl ifanc Cymru – Efa Gruffudd Jones, pennaeth yr Urdd, yn rhoi cychwyn i ddathliadau pen-blwydd y mudiad.

  • Mae yna ormod o bobl – pobl wirioneddol dda, cydwybodol a thwymgalon – sy’n byw bywyd ofnadwy. Yr ydw i eisiau eu deffro nhw a gofyn, “Pam ydych chi’n gwneud yr hyn ydych chi’n ei wneud? – Y Dr Cliff Arnall, seicolegydd o Aberhonddu, yn edrych ymlaen at ddydd Llun diwethaf, diwrnod tristaf y flwyddyn yn ôl rhai.

  • £157,571 – yr arian a wariwyd ar drwsio gwahanol bethau yn adeilad y Senedd yn ystod ei bum mlynedd gyntaf. Ymhlith y problemau yr oedd dŵr yn gollwng, gwaith coed yn hollti, llechi rhydd a drysau ddim yn ffitio.

  • Dim ond  trwy feddiannu meddyliau’r bobl y gall imperialydd gwleidyddol , diwylliannol neu ysbrydol gael pobl i gefnu ar ystyron eu gwareiddiad – Dewi Prysor yn ‘Taliesin’.

  • Dwi’n meddwl fy mod i’n reit dda. Maen nhw’n disgwyl ichi fod yn rybish a phan ydych chi’n reit dda mae’n eu synnu – Joe Calzaghe yn sôn wrth y ‘Wales on Sunday’ am ei brofiad yn actio yn Hollywood.

  • Ond mae’n dal yn wir fod cryn nifer o aelodau’r blaid yn wrywod, yn hen ac yn byw yng Ngwynedd . . . Byddai’r bobl hyn yn meddwl mai ystyr rhwydweithio cymdeithasol ydi prydau ar olwyn – Darlun Matt Withers yn y ‘Wales on Sunday’ o aelodaeth Plaid Cymru.

  • 140,000 – nifer y coed a blannwyd ar chwe safle yng Nghymru fel rhan o brosiect i dyfu coeden ar gyfer pob babi sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu.   

  • Mae'n drist iawn mai dyma'r unig ddewis – Richard Kirk, Prif Weithredwr Peacocks ddydd Mercher.  

  • Dw i’n cofio bachgen bach yng Nghynnwyd le’r odd Nain a taid yn byw yn gofyn i mi, “Why don’t you speak Welsh?” ac atebais, “I don’t know but I will one day”. Cwrddais â’r bachgen yn Eisteddfod Wrecsam llynedd a pleser pur oedd siarad Cymraeg â’n gilydd – Yn ‘Golwg’, Geoffrey Wright, yr actor a chwaraeai Paul Ambrose yn y gyfres deledu ‘Dina’s 25 mlynedd yn ôl. Mae’n diwtor Cymraeg tyng Nghaerdydd yn awr.

  • Mae’n rhyfedd yn Sir Fôn yma, does yna neb wedi mynd allan o’u ffordd i ymateb i’r safiad yda ni’n ei wneud, ond rydan ni wedi cael lot fawr o ymateb o Sir Gaenarfon – Richard Jones sy’n ceisio cadw ei fferm Caerdegog o ddwylo cwmni Horizon ac atomfa bosibl Wylfa B, yn siarad a’r ‘Cymro’.

  • Roedden ni'n ceisio creu 'buzz' am y sîn gerddorol yn gyffredinol, oherwydd dyna yw ein diddordeb – Owen Hughes o Recordiau’r Cob sy’n cau siop ym Mangor wedi 33 mlynedd.     

  • Mae angen gwneud penderfyniadau anodd – arbenigwr methdalu yn ymateb ddydd Iau i helyntion diweddaraf cwmni Peacocks.    

  • Rali undydd fydd y fformat newydd – Llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn trafod penderfyniad i ganslo cynhadledd y blaid yn Llandudno.    

  • Ydi Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn tynnu’n coes? Ryan Giggs yn rheolwr Cymru? Wnaiff o droi’i fyny ar gyfer gemau cyfeillgar? – Huw Evans, Y Fenni, mewn llythyr yn y ‘Wales on Sunday.

  • Dydw i ddim yn mynd i droi nghefn ar glwb sydd wedi rhoi y cyfle yma imi – Brendan Rogers yn ymateb i sibrydion y gall adael ei swydd yn rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.