Dilyn y Dyfyniadau
Ydetholiad wythnosol diweddaraf o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos. A chroeso, fel arfer i ychwanegu at y sylwadau. Dyma nhw
- Fe hoffwn i ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r Urdd am eu holl waith caled ac yr wyf yn dymuno’n gynnes y gorau i’r Urdd yn y dyfodol ar achlysur y garreg filltir bwysig hon – David Cameron AS, y Prif Weinidog, yn cyfarch yr Urdd ar ei phen-blwydd yn 90 oed.
- Efallai y dylen ni fod yn edrych ar sefydlu mudiad o fewn yr Urdd neu i gydredeg a'r Urdd ar gyfer rhieni – Prys Edwards Llywydd Anrhydeddus yr Urdd.
- Yr oedd y bwyd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Ne Korea yn ddychrynllyd. Yr oedd fel cinio ysgol ond yn waeth; prin yn gynnes, darnau sâl o gig a’r bolognese yn ddim ond tomatos slwts . . . Ar ôl imi ennill y peth cyntaf wnes i oedd ordro pizza – nawr dyna beth yw bwyd pencampwyr – Dai Greene yn yr ‘Observer Food Monthly’ ddydd Sul.
- Un o’r syniadau gorau i ddod o’r byd celf dros yr wythnosau diwethaf yw hwnnw ynghylch gwobrwyo anifeiliaid am eu rhannau mewn ffilmiau – Cris Dafis yn ‘Golwg’.
- Byddai’n braf cael clywed yn gymharol fuan beth ydy’r weledigaeth – Elain Price o Brifysgol Abertawe yn ‘Golwg’ ar derfyn wythnos gyntaf Prif Weithredwr newydd S4C, Ian Jones.
- Cydweithio, Cyfathrebu, Uchelgais, Hyder a Beiddgarwch - Ian Jones, Prif Weithredwr newydd S4C, yn rhannu “geiriau'r misoedd a'r blynyddoedd nesa” ar Twitter.
- Os yw’r A470 angen enw; gan fod Llwybr Glyndwr yn bodoli’n barod fel llwybr cenedlaethol ar draws Cymru o’r dwyrain i’r gorllewin a allai awgrymu Llwybr Llywelyn ar ôl un o wir dywysogion Cymru? – Nona Evans mewn llythyr yn y ‘Western Mail’ ddydd Llun.
- Yfory dwi’n gwarchod babi bach fy chwaer, mae hi’n fam sy’n gorfod gweithio – dwi am fynd a fo i’r Amgueddfa Genedlaethol i ail-ymweld a chasgliad y chwiorydd Davies. Ac wrth bowlio’r goets heibio’r campweithiau celf fe fyddai’n meddwl am y merched, yn famau a modrybedd, yn neiniau a chwiorydd sy’n parhau i gynnal ein mamwlad – Lusa Glyn, beirniad teledu yn ‘Y Goleuad’, wedi ei hysbrydoli gan gyfres Ffion Hague, ‘Mamwlad’, ar S4C – yn enwedig y bennod am y Chwiorydd Davies, Llandinam.
- Yn ffodus mae gan fy nghariad job wirioneddol dda felly mi wna i edrych ar ôl y plant yn ystod y dydd pan mae hi yn ei gwaith ac wedyn mynd allan gyda’r nos i geisio gwneud dipyn o bres o fy miwsig – Alun Evans, gitarydd ‘Y Niwl’ yn y ‘Western Mail’ ddydd Llun.
- Nifer o bethau dibwynt megis cadw pêl yn yr awyr (keepy-uppy), taflu pethau i’r bin o bellter a thorri gwynt gyda fy nwylo – Rhodri ‘Rapsgaliwn’ Meilir yn rhannu â ‘Golwg’ bethau y mae’n “dipyn o arbenigwr ar eu gwneud”.
- Os na dderbyniwch yr e-bost hwn dywedwch wrthym ac fe’i hanfonwn eto – Y neges ar waelod e-bost a dderbyniodd Rhian Williams, un o golofnwyr y ‘Wales on Sunday’.
- Ar y cychwyn yr oedd pobl yn meddwl iddyn nhw gael eu dwyn – Y Cynghorydd Aaron Shotton o Gei Connah yn y ‘Wales on Sunday’ yn trafod helynt yn Sir Y Fflint lle’r oedd loris sbwriel yn llyncu’r biniau yn hytrach na’u gwagio!
- Yr ydw i wedi medru tynnu llun da erioed ond nid o safon David Bailey – Aneurin Barnard a chwaraeai ran David Bailey yn y ffilm ‘We’ll Take Manhattan’ ar BBC 4 nos Iau.
- Llond trol o syniadau . . . Artistiaid di-ri gobeithio. Llwyfan i Gymru cyn yr Olympics – Bryn Terfyl yn trydar am Wyl y Faenol yn y Southbank, Llundain.
- Siomedig – Ymateb Dafydd Iwan i symud Gwyl y Faenol i Lundain.
- Rhaid inni gofio mai methu wnaethom ni yng Nghwpan y Byd; fe wnaethom, ni golli yn y rownd gynderfynol a rhaid inni ail gynnau y brwdfrydedd hwnnw oedd gennym ni cyn Cwpan y Byd – Rob Howley wedi i Gatland enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwald.
- Maen nhw’n dweud bod dringo’n Rhif 1 y byd yn haws na chadw’r safle – ac oni wnaeth tîm criced Lloegr gyfiawnder a’r ddamcaniaeth honno yn Dubai yr wythnos diwethaf – Delme Parfitt colofnydd chwaraeon yn y ‘Wales on Sunday’.
- Dwi’n credu bod yna Gwpan y Byd arall ynof i – Adam Jones, prop Cymru, wrth ohebydd y ‘Wales on Sunday’.