Fyny, fyny a fyny eto!
Waynne Phillips sy'n ymuno efo Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones i ddathlu dyrchafiad anhygoel arall i Wrecsam - y trydydd yn olynol.
Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogystal â'i farn am sut all Wrecsam gystadlu yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.