Rhy hwyr i Rambo greu gwyrth yng Nghaerdydd?
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n pryderu fod yr Adar Gleision yn rhedeg allan o gemau i osgoi disgyn o'r Bencampwriaeth.
Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig.
Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb.
Ac am ddiweddglo sydd ar y gweill yn yr Adran Gyntaf wrth i Wrecsam a Wycombe gyfnewid lle unwaith eto yn yr ail safle hollbwysig. Gêm enfawr arall i ddod ar y Cae Ras ddydd Sadwrn wrth i Charlton ymweld, gyda'i rheolwr Nathan Jones yn ychwanegu hyd yn oed mwy o sbeis i'r achlysur wrth alw'r clwb yn "syrcas"!
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.