Main content

Nigel Owens yn mynd â ni ar daith drwy fywydau enwogion o'r byd chwaraeon. Y straen o fod ar y brig, a'r eiliadau wnaeth ddiffinio eu bywydau.

Fel y Cymro mwyaf poblogaidd yn Norwich, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd ar ôl gyrfa llawn uchafbwyntiau hoffus. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu mwy am gyfnodau anodd gyrfa Iwan, a sut ddeliodd gyda’r pwysau o fod yn ddihiryn cyn troi’n ffefryn gyda chefnogwyr Norwich. Bydd Iwan yn edrych yn ôl ar yr adegau mwyaf cofiadwy o’i yrfa, a chlywn am sut wnaeth ei ddyddiau cynnar lunio ei chwarae ar y cae. Nawr yn lais adnabyddus ar ein darllediadau pêl-droed, mae Iwan yn datgelu’r hanesion tu ôl i’w daith o gwmpas rhai o glybiau Lloegr.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

51 o funudau

Podlediad