Sut mae datrys problemau Abertawe?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n gofyn be' nesa' i Abertawe ar ôl diswyddo'r rheolwr Luke Williams.
Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr?
Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn nhw gychwyn eu hymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Eidal a Sweden.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd pêl-droed yn ei le.