
Diwrnod 2 - Taith Feics Al Hughes
"Fe bedlodd fel corwynt a’i goesau fel plwm!"
Ail ddiwrnod y daith wedi bod yn wych, o Gaerfyrddin i Langrannog.
Diolch i bawb daeth allan i gefnogi!
"Fe bedlodd fel corwynt a’i goesau fel plwm!"
Ail ddiwrnod y daith wedi bod yn wych, o Gaerfyrddin i Langrannog.
Diolch i Heiddwen Tomos, Bardd y Mis, am y gerdd, ac i bawb daeth allan i gefnogi.
-----
Taith feics
Fel wipet, daeth Aled yn gysgod ar ben beic
A’i drowser yn dynn a’i fochau yn wyn.
Trwy’r gwynt a’r glaw a’r heulwen
Fe drodd ar lwybr hir,
A’i chwys fel cot.
Fe bedlodd drwy Ferthyr,
Fe bedlodd drwy’r cwm,
Fe bedlodd fel corwynt a’i goesau fel plwm.
Draw am G’fyrddin yn tynnu fel trên
A’i wegil yn gwegian
Fe deimlodd yn hen.
Roedd Pydsi yn aros, roedd Pydsi yn ffrind,
Rôl chwythu, pwldagu
Roedd milltiroedd i fynd.
Roedd gelyn y gwynt
Yn ei dynnu yn ôl
A Dewi fel roced
Yn raso drwy’r ddôl.
Fe gorcodd ei galon,
Fe siglodd fel brwyn
Roedd mynyddoedd o straffaglu,
Heb le i’r un gŵyn.
R’ôl cyrraedd copa greithiog
A’r glaw fel carped gwlyb
Roedd neidr hir yr hewlydd
Yn codi, codi sbîd.
Fe fwron ddyffryn Teifi fel bwlet mas o wn
A theiers wedi troelo wrth ddringo mas o’r cwm.
Am lawr yr aethant wedyn gan gyrraedd 68
a throi am Aberystwyth
fel dou geit.
“Hei Dewi!” gwaeddodd Aled,
“Dal mewn er mwyn dyn.
Ma nghoesau i yn tynnu,
a ngheg i’n sych a chrin!”
Fe felltodd y cwbwl wedyn
Nes hollti’r dydd yn nos
A choesau bach r’hen Aled
Bedlodd drwy bob ffos.
O ’r de i’r gogledd wedyn a thuchan lan rhyw bant
roedd talcen chwys yn sheino a nhwythau’n bwrw’r cant.
Ei goesau bach fel brigau
Yng nghanol corwynt fawr,
Fe aeth fel Shot
A glwychu ei got,
Rhai cadw fynd am nawr.
Fel pryfyn yn y pellter.
Fe wellodd damaid bach
Pan ddaeth yr haul a’i freichiau
A chrasu’r awyr iach.
Ni fuodd erioed cyn balched
Na chyrraedd pen ei daith
a phlant bach Cymru gyfan
yn clapio am amser maith.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Taith Feics Aled Hughes—Aled Hughes, Taith Feics 2017
Wythnos o raglenni'n gysylltiedig ag ail daith feics Aled, er budd Plant Mewn Angen.
Bardd Tachwedd 2017 - Heiddwen Tomos—Gwybodaeth
Heiddwen Tomos yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2017.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Amgueddfa Lloyd George ar ei newydd wedd
Hyd: 09:40
-
Y tad, y mab a'r snwcer!
Hyd: 08:25
-
Papur gwyddoniaeth am faelgwn
Hyd: 06:18