Main content
Sorry, this clip is not currently available

O Na! Mae ‘di Dechrau!

Mae hi’n ddiwrnod ei harholiad iaith ac mae Lara (12) yn deffro i ddarganfod ei bod wedi cael ei misglwyf cyntaf. Mae ganddi ofn sôn wrth unrhyw un am y peth, ac mae hi’n poeni beth fydd pawb yn ei feddwl. Pan mae hi’n rhannu ei chyfrinach gyda’i ffrindiau, maen nhw’n mynd â hi i’r archfarchnad leol, lle mae hi’n dysgu am dywelion (caiff tamponau eu crybwyll ond nid eu disgrifio). Dysga Tony (13) a Gabriel (13) beth sydd wedi digwydd i Lara, ac wrth sylweddoli bod y merched yn newid, maen nhw’n dechrau meddwl tybed beth fydd effaith hyn ar eu cyfeillgarwch. Mae Max (16) yn dwysáu eu pryderon drwy ddweud bydd y merched nawr ond yn dangos diddordeb mewn bechgyn hŷn fel fe. Diolch i’w ffrindiau, mae pryderon Lara yn cael eu lleddfu a’i hyder yn cael hwb. Er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n tyfu i fyny, mae hi’n benderfynol o beidio â gadael i’r newidiadau sy’n digwydd i’w chorff amharu ar ei huchelgais a’i chyfeillgarwch gyda’i ffrindiau.

Duration:

13 minutes

This clip is from

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu