Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

28/06/2025

Hanes tîm pêl-droed merched Cymru cyn iddyn nhw chwarae yn Ewro 2025. The history of the Wales women football team before they play in Euro 2025.

Ym mis Gorffennaf mi fydd tîm pêl-droed merched Cymru yn chwarae yn Ewro 2025 - y tro cyntaf erioed iddyn nhw chwarae yn un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol. Mae’r rhaglen hon yn olrhain hanes y tîm, ac yn siarad efo’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r daith dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Yr Athro Laura McAllsiter, Kath Morgan, Gwennan Harries a’r capten presennol Angharad James.

Doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn fodlon cydnabod y tîm pan gafodd ei ffurfio yn 1973. Am 20 mlynedd bu’n rhaid i’r chwaraewyr drefnu a thalu am bopeth eu hunain, cyn i’r Gymdeithas o’r diwedd gymryd rheolaeth o’r tîm yn 1993.

O fynd o fod yn dîm answyddogol i chwarae gyda goreuon Ewrop yn Ewro 2025 - mae hi’n dipyn o stori.

Dyddiad Rhyddhau:

28 o funudau

Ar y Radio

Sad 28 Meh 2025 08:30

Darllediadau

  • Sad 28 Meh 2025 08:30
  • Sul 29 Meh 2025 16:00