Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Canrif o Richard Burton, a chysylltiadau rhwng Merthyr a Ffrainc

Nodi canrif ers geni Richard Burton gyda thaith Gymreig o amgylch bro ei febyd. A century since Richard Burton was born, Dei explores the actor's hometown and Welsh connections.

Mae Griff Harries yn dywysydd yn ardal Port Talbot, ac yn mynd â Dei ar daith o amgylch pentrefi Pontrhydyfen a Thaibach i nodi canrif ers geni Richard Burton eleni. Cawn glywed am gysylltiadau Burton â Chymru a'r Gymraeg, yn ogystal ag ambell berl o hanesyn am un o actorion amlycaf ei gyfnod.

A chan aros yng nghymoedd y De, Heather Williams sy'n dweud hanes teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Darllediadau

  • Dydd Sul 17:00
  • Dydd Mawrth 18:00

Podlediad