Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Alun Thomas yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Wrth i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Victoria a British Columbia ddatgan bod wyth awr o gwsg ddim yn holl bwysig bellach ond yn hytrach y lefel o gwsg sy'n gyffredin i'r lle yr ydych chi'n byw sy'n bwysig, mi fyddwn ni'n clywed gan Rhian Mills yr Ymgynghorydd Cwsg a Nerys Rees sy'n byw yn Siapan.

Wrth i ni barhau â'n cyfres o sgyrsiau tymor Merthyr, Marion Loeffler sy'n nodi 150 o flynyddoedd ers marwolaeth Thomas Stephens, yr Hanesydd o Ferthyr.

Ac wrth i sianel deledu "Talking Pictures" nodi degawd ers ei sefydlu, pam bod sianel sy'n canolbwyntio ar ffilmiau a chyfresi o'r gorffennol yn dal i apelio? Jamie Medhurst sy'n cynnig atebion.

Dyddiad Rhyddhau:

1 awr

Ar y Radio

Dydd Iau 13:00

Darllediad

  • Dydd Iau 13:00