08/06/2025
Elinor Gwynn a Carwyn Graves sy’n sgwrsio am dyfu llysiau, cantîns ysgol, dysgu coginio a dyfodol bwyd ysgol. Stories about growing vegetables, school dinners and cooking lessons.
Elinor Gwynn a Carwyn Graves sy'n sgwrsio gyda YouTuber hynod o lwyddiannus; plant sy'n arbenigo ar brownies betys a choginio cêl yn flasus; tyfu flax yng Ngardd Enfys a bwyd ysgol dros y blynyddoedd. Mae'r ddau yn teithio o Glarach i Lanelli, o Landysilio i Lechryd a lot o lefydd eraill i glywed am wersi coginio mewn clybiau ieuenctid; ciniawau ysgol y dyfodol; tyfu llysiau fel asbaragws, llus mêl ond hefyd cennin; rhannu sgiliau creu compost, beth i'w wneud gyda mintys o Gorea, a chymaint mwy. Pwy feddyliai bod hi wedi rhewi bob mis yn Nhregaron oni bai am fis Awst a beth mae hynny yn ei wneud i arddwr ifanc? A all gwersi coginio ddarbwyllo plant i fwyta'n well? A beth yw eu hoff bryd - cawl llysiau, chickpea curry neu brownies betys?
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Dydd Sul 16:00BBC Radio Cymru