
Iwan Steffan
Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, Cyflwynydd a Dylanwadwr. Beti George interviews Iwan Steffan, Presenter and social media influencer.
Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr.
Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl.
Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros.
Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel ‘na – dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwl“.
Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. “ dwi’n dathlu fy hun rŵan – dwi wedi treulio gymaint o’m mywyd yn anhapus”
Ar y Radio
Darllediad
- Yfory 18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people