
Iechyd a lles yng nghefn gwlad
Terwyn Davies sy'n clywed gan bobl sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl cefn gwlad Cymru. The stories of people who contribute to the health and well-being of rural people in Wales.
Terwyn Davies sy'n clywed straeon unigolion sy'n cyfrannu at iechyd a lles pobl cefn gwlad Cymru.
Robin Jones, ffermwr ifanc o ardal yr Wyddgrug, sydd wedi troi hen sied amaethyddol yn gampfa gymunedol. Mewn byd ffermio sy’n gallu bod yn un unig, mae Farm Fit yn fan i gwrdd, i gryfhau’r corff a’r gymuned.
Hefyd, Mari Arthur o gwmni Tetrim Teas yn Nhrimsaran, Sir Gaerfyrddin sy'n sôn sut mae'n trawsnewid perlysiau Cymreig yn gymysgeddau llesol o de, gyda 75% o’u cynhwysion yn dod o Gymru.
A Gwen Lloyd o Bantperthog ger Machynlleth, sy’n sôn am gelfyddyd reiki, a sut y mae hi’n trin anifeiliaid a phobl fel ei gilydd – gan ddangos bod iechyd mewn sawl ffurf, weithiau heb air na meddyginiaeth.
Ar y Radio
Darllediadau
- Yfory 07:00BBC Radio Cymru
- Yfory 15:30BBC Radio Cymru