Alun Thomas yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Mis nesa bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Uwch Gynhadledd Ymddygiad, ar ol i nifer rannu eu bod nhw'n poeni am ddirywiad ymddygiad disgyblion mewn ysgolion. Alun Ebenezer a Sioned Weaterton fydd yn trafod,
gyda 'Gwyl Crime Cymru' - gwyl lenyddiaeth drosedd ryngwladol - ddechre yn Aberystwyth fory, sgwrs gyda Alis Hawkins sy'n ymddangos fel panelydd ac sydd hefyd yn gyn- gadeirydd yr wyl;
A Sandra Salisbury Jones sy'n son am astudiaeth sydd wedi'i chyhoeddi yr wythnos hon gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Eötvös Loránd yn Hwngari, sy'n honni y gall cŵn gynnig cefnogaeth emosiynol sydd hyd yn oed yn fwy pwerus na’r hyn a gawn gan ein ffrindiau gorau neu aelodau o’n teulu.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Ddoe 13:00BBC Radio Cymru