20/04/2025
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Ymweld ag ystafell ymarfer ‘Huw Fyw’, sef cynhyrchiad diweddaraf Theatr Cymru yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, a sgwrsio gydag awdur y ddrama, Tudur Owen. Yn ogystal ac ysgrifennu ei ddrama lwyfan gyntaf, Tudur hefyd sydd yn portreadau ‘Huw Fyw’, a hynny o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr artistig a Chyd-Brifweithredwr Theatr Cymru. Ond mae actorion eraill hefyd yn y cynhyrchiad arbennig yma, sef Dafydd Emyr, Lois Meleri Jones ac Owen Alun, a chawn glywed ganddynt hwythau yn eu tro am eu cymeriadau a’u profiadau wrth baratoi tuag at lwyfannu’r ddrama.
Mae Marlyn Samuel yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am ddathliadau Theatr Fach Llangefni sydd ar fin dathlu ei phenblwydd yn 70 oed.
Ac mae Heledd Wyn yn ymweld ag arddangosfa arbennig yn Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni artist Rwth Jên – arddangosfa sydd yn nodi pwysigrwydd rhai o gyhoeddiadau ein gweisg bychain i’r byd celfyddydol.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Dydd Sul Diwethaf 13:00BBC Radio Cymru
- Dydd Llun Diwethaf 18:00BBC Radio Cymru