Aurora Borealis
Drama am daith menyw o Gymru i Akureyri, ail-ddinas Gwlad yr Iâ, er mwyn gwasgaru llwch ei thad-cu. A woman's journey from Wales to Iceland, to scatter her grandfather's ashes.
Bu’r Tad-cu yn un o’r Polar Bears yn 1941, brigâd o filwyr Prydeinig feddiannodd Gwlad yr Iâ ar y pryd, rhag ofn byddai'r Almaenwyr ei meddiannu. Yn Akureyri bu'r tad-cu'n byw blwyddyn orau ei fywyd, meddai ef. Byth oddi ar y rhyfel, fe ddywedai ef wrth ei ferch “Rhyw ddydd fe ewn ni i Akureyri.” Ond, er ei holl addewidion, aethon nhw byth i Wlad yr Iâ. Pan drodd ei ferch ef yn fam yn ei thro, fe ddywedodd hithau wrth ei merch hi, “Rhyw ddydd, fe ewn ni i Akureyri i wasgaru llwch dy dad-cu.” Ond roedd wastad rhywbeth yn eu rhwystro: “Dyna yw bywyd, sbo”. Yna, blynyddoedd wedi marwolaeth ei mam, mae'r ferch yn penderfynu teithio i Akureyri er mwyn gwasgaru llwch ei thad-cu a'i mam ar lethrau mynydd Sulur sy'n codi uwch Akureyri, a hynny dan olau'r Aurora Borealis.
Cast
Menyw: Siwan Morris
Islander: Siggi Ingvarsson
Tad-cu: William Thomas
Alex: Iwan John
Amryw: Nia Ann
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 30 Maw 2025 16:00BBC Radio Cymru