
Oedfa gyntaf y Grawys ar ffurf llythyr Aled Jones Williams at ei ŵyr
Oedfa gyntaf y Grawys ar ffurf llythyr Aled Jones Williams at ei ŵyr. A service for the first Sunday in Lent in the form of a letter from Aled Jones Williams, to his grandchild.
Oedfa gyntaf y Grawys ar ffurf llythyr Aled Jones Williams at ei ŵyr bach dyflwydd oed, Meuryn Eben.
Mae'n trafod Iesu yn cael ei demtio yn yr anialwch gan bwysleisio'r angen i ofalu peidio llyncu hanner gwirionedd a chofio mai perthynas yw ffydd yn anad dim arall. Mae hefyd yn tynnu sylw at y perygl o wirioni ar ddiwylliant y "celeb" a'i driciau ac eilun-addoliaeth ein hoes.
Yn hytrach gofynnir am bwyslais ar holi gonest, adnabod y Cariad di-amod a welwyd ar y Groes a byw bywyd o addoliad parhaus, y Bywyd a ddangosodd Iesu Grist sut i’w fyw pan gerddodd o’r anialwch wedi gwrthod troi cerrig yn fara, gwrthod neidio o ben ryw dŵr, gwrthod ildio i eilun-addoliaeth.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Côr Crymych A'r Cylch
Maelor / Ymddiried Wnaf yn Nuw
-
Cymanfa Salem, Llangennech
Llanbaglan / F`Enaid Gwel I Gethsemane
-
Cynulleidfa Capel Blaenffos
Rockingham / Wrth Edrych, Iesu, Ar Dy Groes
Darllediad
- Sul 9 Maw 2025 12:00BBC Radio Cymru