
Dathlu CFFI Bro Ddyfi
Aelodau a chyn-aelodau CFFI Bro Ddyfi sy'n hel atgofion wrth ddathlu yn ddiweddar. Members and former members of Bro Ddyfi YFC reminisce as they celebrated the club recently.
Aelodau a chyn-aelodau CFFI Bro Ddyfi yn Sir Drefaldwy sy'n hel atgofion wrth iddyn nhw ddathlu gyda'i gilydd yn ddiweddar.
Hefyd, wrth i ymgyrch Sir Frycheiniog, Sir Nawdd Sioe Frenhinol Cymru 2026 gael ei lansio ar faes y sioe yn Llanelwedd, sgwrs gyda'r darpar Lywydd, Gethin Havard, a'r ddarpar Lysgenhades, Teleri Haf Thomas.
Daniel Williams o CFFI Rhosybol, Ynys Môn sy'n sôn am ennill un o wobrau blynyddol CFFI Cymru yn gynharach eleni.
A Prysor Williams, Athro mewn Amaeth ac Amgylchedd yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Cymru Bangor sy'n darllen drwy'r straeon amaeth a gwledig yn y wasg yr wythnos hon.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 23 Chwef 2025 07:00BBC Radio Cymru