Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

8 ola Cwpan Cymru

Dylan Jones a'r criw yn trafod pob math o bethau'n ymwneud â phêl-droed. Football magazine programme with Dylan Jones and the gang.

Sgwrs efo Derwyn Griffiths, tad y chwaraewraig Mared Griffiths o Drawsfynydd, ddaeth ymlaen fel eilydd i Manchester United a sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta’ i'r clwb;

Sylw i Rownd 8 ola’ Cwpan Cymru, ac i gêm Dinbych yn erbyn Llanelli, a sgwrs efo dau frawd, Gareth a Rhodri Luke Jones sy'n gefnogwyr y ddau glwb;

A Helen Antoniazzi o Gymdeithas Pêl-droed Cymru a Nicole Samson yn trafod cynllun "Be.Football" sy'n mentora merched a chynnig cyfleoedd o fewn y diwydiant pêl-droed yng Nghymru.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sad 15 Chwef 2025 08:30

Darllediad

  • Sad 15 Chwef 2025 08:30

Podlediad