Main content

Lowri Hedd

Beti George yn sgwrsio gydag Lowri Hedd, Bardd, Gwrach Fodern sydd yn gweithio gyda mudiad GwyrddNi. Beti George chats to Lowri Hedd, Bard and Community Facilitator with GwyrddNI.

Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun.
"Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fydda’i ddim yn hedfan, o ran egwyddor."

Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon Môn, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un.

Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o Fôn, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn siarad mewn cynghanedd" meddai ac yn ddylanwad mawr. " Mae sain y gerdd dafod yn rhan ohona'i".

Mae hi yn byw bywyd prysur a diddorol, ac yn credu yn yr ysbrydol " da ni'n fwy na chorff a gwaed".

Mae hi'n dewis 4 can, yn cynnwys can Lleuwen – Bendigeidfran ddaeth allan ar ôl canlyniad Brexit. “Mae angen pontydd rhyfeddol”. Mae Lowri yn teimlo reit gryf am hyn. Mae hi’n teimlo ei bod yn reit aml yn pontio rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas. Mae hefyd yn dewis artist o'r Iwerddon sy'n canu caneuon gwleidyddol, Lisa O'Neill –gan ddewis y gan If I Was a Painter.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 13 Chwef 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Lisa O’Neill, Colm Mac Con Iomaire, David Coulter, Joseph Doyle, Kate Ellis & Ruth O'Mahony Brady

    If I Was A Painter

  • Lleuwen

    Bendigeidfran

    • Gwn Glân Beibl Budr.
    • Sain.
    • 6.
  • NoGood Boyo

    Welcome to Hell

    • Recordiau UDISHIDO.
  • Sérgio Mendes

    Magalenha (feat. Carlinhos Brown)

    • Maghalena (International Version).
    • Universal Music Mexico.
    • 3.

Darllediadau

  • Sul 9 Chwef 2025 18:00
  • Iau 13 Chwef 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad