Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Godro yn Seland Newydd

Elain Williams o ardal Llandeilo sy'n sôn am weithio ar fferm odro yn Seland Newydd. Elain Williams from Llandeilo talks about working on a dairy farm in New Zealand.

Elain Williams o ardal Llandeilo sy'n sôn am weithio ar fferm odro yn Seland Newydd, a sut y mae wedi setlo yn ardal Canterbury yn y wlad.

Hefyd, Emily Williams o Geredigion sy'n trafod ennill Gwobr Arallgyfeiriad Gorau yn seremoni wobrwyo CFFI Cymru yn ddiweddar, a hynny am y lleoliad priodas y mae wedi sefydlu ar y fferm.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Gwyddoniaeth, sgwrs gyda Nia Lloyd o Brifysgol Cymru Aberystwyth a Ffion Evans o Brifysgol Cymru Aberystwyth am eu gwaith nhw yn y maes.

Y newyddion diweddaraf o'r sector laeth gyda Richard Davies, a Hefin Jones, Cadeirydd Sirol NFU Cymru yn Sir Gaerfyrddin sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 9 Chwef 2025 07:00

Darllediad

  • Sul 9 Chwef 2025 07:00