Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

CFFI Dyffryn Nantlle yn 80 oed

Aelodau a chefnogwyr CFFI Dyffryn Nantlle sy'n sôn am ddathliadau'r clwb yn 80 mlwydd oed. Terwyn Davies chats to Joyce Owens from Llanelli on receiving a special award recently.

Aelodau a chefnogwyr CFFI Dyffryn Nantlle yn Eryri sy'n sôn am ddathliadau pen-blwydd y clwb yn 80 mlwydd oed yn ddiweddar.

Hefyd, hanes Joyce Owens o Lannon ger Llanelli sydd wedi ennill gwobr arbennig yn ddiweddar gan Undeb Amaethwyr Cymru am gyfraniad eithriadol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Ac un o sêr y gyfres Amour a Mynydd ar S4C, Gerwyn Evans o Gerrigydrudion sy'n sôn am bod yn rhan o'r gyfres, ond hefyd am ei gysylltiad â'r byd peiriannau amaethyddol.

Rhagolygon y tywydd am y mis i ddod gyda Megan Williams, ac Eirwen Williams o gwmni Mentera sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Ion 2025 07:00

Darllediad

  • Sul 26 Ion 2025 07:00