Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Arferion a thraddodiadau cefn gwlad

Terwyn Davies sy'n trafod rhai o arferion a thraddodiadau cefn gwlad, gan gynnwys coits. Terwyn Davies discusses rural traditions and country hobbies, including the game of quoits.

Terwyn Davies sy'n trafod rhai o arferion a thraddodiadau cefn gwlad.

O Dregaron daw Martha Morgan, sy'n sôn am ei chefndir yn hyfforddi cŵn defaid a chystadlu mewn treialon ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Mae Joseff Jones o Ddinas Mawddwy yn grefftwr o fri, ac yn ymddiddori mewn plygu gwrychoedd, yn arbennig yn y dull Mawddwy. Mae'n sôn am y grefft, a sut y dechreuodd ymddiddori yn y traddodiad.

Bill Davies o Lanfyrnach, Sir Benfro sy'n trafod hyfforddi timau tynnu rhaff yn yr ardal ar hyd y blynyddoedd.

Ac Emyr Edwards o Felin Fach yn Nyffryn Aeron, Ceredigion sy'n sôn am fod yn bencampwr mewn gêm coits - a hynny sawl tro.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Ion 2025 07:00

Darllediadau

  • Sul 20 Hyd 2024 07:00
  • Sul 12 Ion 2025 07:00